Perchnogion Castell Gwrych yn derbyn cynnig i'w brynu

Mae perchnogion hen gastell ger yr A55 yn Sir Conwy wedi derbyn cynnig i brynu'r eiddo.

Roedd bwriad i werthu Castell Gwrych ger Abergele mewn arwerthiant ym Manceinion ddydd Iau gyda phris awgrymedig o dros 拢600,000, ond cafodd ei dynnu o'r rhestr dros nos.

Ar eu gwefan, dywedodd cwmni Pugh Auctions fod y castell ddim ar werth mwyach "wedi i gynnig gael ei dderbyn gan ein cleient, gyda'r cyfan yn ddibynnol ar gyfnewid cytundebau".

Does dim manylion hyd yma yngl欧n 芒'r prynwr, ond yn y gorffennol mae Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych wedi apelio am gymorth y cyhoedd i brynu'r eiddo sy'n dyddio o'r 19eg Ganrif.

Mae gan yr ymddiriedolaeth a'r corff amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru brydles ar ran o'r safle.

Cafodd y castell ei brynu yn 2010 gan gwmni Edwards Property Management.

Rhoddwyd caniat芒d cynllunio yn 2013 i gynllun gwerth 拢25m i droi'r safle'n westy moethus gyda sba.

Cafodd y castell ei adeiladu rhwng 1812 a 1822 gan Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh fel cofeb i deulu ei fam - sef y Llwydiaid.