麻豆官网首页入口

Ymateb ffyrnig i gynigion a fyddai'n uno Gwynedd a M么n

  • Cyhoeddwyd
Llinos Medi
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae angen i Lywodraeth Cymru adael lonydd i'r awdurdodau lleol yn 么l y cynghorydd Llinos Medi

Mae cynghorwyr Ynys M么n wedi ymateb yn ffyrnig i gynigion a fyddai'n gweld yr awdurdod lleol yn uno gyda Chyngor Gwynedd.

Fe bleidleisiodd pob aelod o fewn y siambr ag eithrio un, o blaid cadw'r drefn bresennol o gael dau gorff ar wah芒n.

Cafodd y Prif Weinidog Carwyn Jones a'r Gweinidog Llywodraeth Leol Alun Davies eu hamlygu yng nghwynion y cynghorwyr, gan ddweud eu bod yn dangos "diffyg parch".

Roedd pryderon hefyd am atebolrwydd lleol pe bai'r awdurdod yn ehangu.

'Diffyg gweledigaeth'

Pe bai'r awdurdodau yn uno byddai'r ffiniau newydd yn ymestyn o Gemaes yn y gogledd i Aberdyfi yn y canolbarth, cyfanswm o 102.5 milltir.

Ym mis Mawrth fe gafodd syniad i dorri nifer y siroedd yng Nghymru o 22 i 10 ei grybwyll gan Mr Davies.

Yn 么l dirprwy arweinydd Cyngor M么n Ieuan Williams, mae Mr Davies wedi dangos "diffyg parch" ac aeth yn ei flaen i'w gyhuddo o fod "heb unrhyw atebion".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Gweinidog Llywodraeth Leol Alun Davies eisiau gweld nifer yr awdurdodau llel yn lleihau

Mewn cyfarfod fore Iau dywedodd arweinydd Cyngor M么n, Llinos Medi fod cydweithio eisoes yn digwydd rhwng awdurdodau, a bod hynny ddim wastad yn llwyddiannus.

Fe ddefnyddiodd Ms Medi'r ffaith fod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig fel esiampl "nad yw awdurdodau mwy wastad yn well".

Ychwanegodd: "Credai rhai y byddai aildrefnu yn arwain at ostyngiad mewn treth cyngor, ond yma yn Ynys M么n mae'r dreth 拢100 yn llai nag yng Ngwynedd".

"Mae'r chwe chyngor gogleddol yn gyt没n ar y mater - mae angen i'r Llywodraeth adael lonydd i ni nawr."

'Iawn fel ydyn ni'

Wrth ategu'r sylwadau uchod, dywedodd arweinydd yr wrthblaid annibynnol Bryan Owen fod Mr Davies yn dangos "diffyg gweledigaeth".

Mae'r Llywodraeth wedi "gwneud llanast o'r byrddau iechyd" ac "heb wneud dim" i wella'r sefyllfa drafnidiaeth yn 么l y cynghorydd.

Ychwanegodd: "Rydym ni'n iawn fel ydyn ni diolch, gaiff y Prif Weinidog roi ei bapur gwyrdd yn y bin lle mae o i fod."

Yr unig aelod i beidio pleidleisio yn erbyn yr undod oedd yr aelod Llafur, Glyn Haynes.

Ymatalodd Mr Haynes ei bleidlais, ond dywedodd y byddai'n rhannu sylwadau ei gyd-gynghorwyr ac yn eu rhannu gydag aelodau eraill ei blaid.