麻豆官网首页入口

Disgwyl cyhoeddiad am gynllun morlyn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
MorlynFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byddai'r morlyn yn gallu darparu p诺er i 120,000 o dai pe bai'n cael ei gymeradwyo

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru ar ddeall bod disgwyl cyhoeddiad ar gynllun 拢1.3bn morlyn llanw Bae Abertawe ddydd Mercher.

Mae'r prosiect wedi derbyn cefnogaeth adolygiad annibynnol gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth y DU yn 2017, ond mae gweinidogion wedi dweud bod yn rhaid i'r cynllun gynnig gwerth am arian cyhoeddus.

Mae'r prif weinidog Carwyn Jones wedi cynnig 拢200m o arian Llywodraeth Cymru i helpu gwireddu'r cynllun, yn dilyn adroddiadau ei fod am gael ei wrthod.

Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wedi mynegi pryder am y gost, gan ddweud bod "y ffigyrau yn ofnadwy".