Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Wylfa Newydd yn sicrhau cymeradwyaeth Ewropeaidd
Mae P诺er Niwclear Horizon wedi derbyn cymeradwyaeth amgylcheddol Ewropeaidd ar gyfer datblygiad Wylfa Newydd.
Cafodd y cynlluniau ar gyfer y prosiect ar Ynys M么n "farn gadarnhaol" gan y Comisiwn Ewropeaidd gan ddweud na fydd yr orsaf yn cael effaith sylweddol ar iechyd na'r amgylchedd.
Roedd y cais yn nodi sut y bydd mesurau ynysu a diogelwch Horizon yn sicrhau na fydd proses waredu'r gwastraff ymbelydrol yn arwain at lygru arwyddocaol i unrhyw wlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Duncan Hawthorne, Prif Weithredwr Horizon fod y cymeradwyaeth yn "garreg filltir bwysig arall i brosiect Wylfa Newydd ac yn rhoi momentwm sylweddol i'r prosiect".
Ychwanegodd: "Byddwn r诺an yn parhau i weithio gyda'r rheoleiddiwr amgylcheddol yng Nghymru i fwrw ymlaen 芒'r gymeradwyaeth hon ar gyfer y trwyddedau domestig sydd hefyd eu hangen ar Wylfa Newydd."