麻豆官网首页入口

Cyngor Sir y Fflint o blaid adnewyddu Theatr Clwyd

  • Cyhoeddwyd
Theatr ClwydFfynhonnell y llun, Google

Mae cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi pleidleisio o blaid parhau a'r gwaith cynllunio ar gyfer prosiect gwerth 拢30m i ailddatblygu Theatr Clwyd.

Roedd y cyngor wedi derbyn argymhellion i roi 拢330,000 tuag at broses datblygu ac ail-gynllunio'r theatr yn yr Wyddgrug.

Mae disgwyl i'r prosiect yn ei gyfanrwydd gostio hyd at 拢30m, a bydd angen cyfraniad o tua 拢22m gan Lywodraeth Cymru.

Byddai'r arian yn cyfrannu tuag at adnewyddu'r adeilad yn ogystal 芒 gwella profiad cwsmeriaid ac aelodau o'r gymuned.

'Wir angen buddsoddiad'

Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler y byddai'n "fuddsoddiad hynod o bwysig".

"Mae'r pum safle perfformio, y siopau, bwyty ac orielau yn atynnu niferoedd mawr o ymwelwyr pob blwyddyn, gan fod o fudd i economi Fflint"

Ychwanegodd: "Mae wir angen y buddsoddiad er mwyn datblygu a moderneiddio'r adeilad eiconig yma ymhellach"

Mae'r Cyngor Celfyddydau eisoes wedi cyfrannu 拢1m at y prosiect, gyda 拢5m pellach wedi ei glustnodi yn eu cyllideb cynllunio.