麻豆官网首页入口

Cymry yn rhan o ymchwiliad i farwolaethau babanod Caer

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Countess of ChesterFfynhonnell y llun, Dennis Turner/Geograph

Mae Heddlu Sir Caer wedi cadarnhau bod teuluoedd o ogledd Cymru ymysg y rhai sy'n rhan o'u hymchwiliad i farwolaethau babanod mewn ysbyty yng Nghaer.

Cafodd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ei harestio ddydd Mawrth ar amheuaeth o lofruddio wyth o fabanod, a cheisio lladd chwech arall yn Ysbyty Iarlles Caer.

Mae swyddogion wedi bod yn ymchwilio i 17 marwolaeth yn yr uned newydd enedigol rhwng mis Mawrth 2015 a Gorffennaf 2016.

Nid yw'r heddlu wedi cadarnhau faint o'r marwolaethau hyn oedd yn effeithio teuluoedd o Gymru.

Achos cymhleth a sensitif

Nid oedd yr ysbyty yn fodlon dweud os oedd unrhyw aelodau staff wedi cael eu hatal, ac nid oedd yr heddlu yn gallu datgelu r么l y gweithiwr gofal iechyd o fewn yr ysbyty.

Dywedodd y ditectif Paul Hughes fod yr ymchwiliad yn un "hynod o gymhleth a sensitif" a'u bod nhw'n gwneud pob dim o fewn eu gallu i ganfod beth yn union arweiniodd at farwolaethau'r babanod.

Ychwanegodd: "Mae rhieni pob un o'r babanod yn cael eu diweddaru a'u cefnogi."

Mae'r ymchwiliad hefyd yn cynnwys 15 achos lle gafodd babanod eu taro yn wael ond lle nad oedd yn angheuol.