Rhun ap Iorwerth ac Adam Price i herio Leanne Wood

Mae Rhun ap Iorwerth ac Adam Price bellach wedi cyhoeddi y byddan nhw'n sefyll i fod yn arweinydd Plaid Cymru.

Bydd AC Ynys M么n ac AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn herio'r arweinydd presennol Leanne Wood am y swydd.

Roedd Mr ap Iorwerth wedi datgan fis diwethaf nad oedd ganddo ddiddordeb i herio Ms Wood - sydd wedi bod yn arweinydd ar y blaid er 2011.

Fe ddywedodd Mr Price y byddai'n herio Ms Wood os nad oedd hi'n cytuno i gael dau arweinydd.

Fe wrthododd Ms Wood awgrym Mr Price ddydd Mawrth, gan ddweud ei fod yn fater ar gyfer yr aelodaeth.

Gornest

Mae'r cyhoeddiad yn golygu y bydd her i'r arweinyddiaeth ym mhob plaid o fewn y Cynulliad heblaw un.

Mae cryn dipyn o s么n wedi bod am her posib i Ms Wood, yn enwedig gan fod y ffenestr sy'n caniat谩u ceisiadau i herio am arweinyddiaeth y blaid yn cau am hanner nos ddydd Mercher.

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Leanne Wood ddod yn arweinydd Plaid Cymru yn 2011

Mae hi eisoes wedi croesawu her i'w harweinyddiaeth, ac wedi addo gadael os nad yw hi'n brif weinidog ar 么l etholiad y Cynulliad yn 2021.

Cafodd Mr ap Iorwerth ei annog i ymgeisio am yr arweinyddiaeth gan aelodau'r blaid yn Ynys M么n fis Mehefin.

Daeth yn Aelod Cynulliad mewn isetholiad yn 2013, gan gymryd lle cyn-arweinydd y blaid Ieuan Wyn Jones.

Ym mis Mehefin dywedodd Mr ap Iorwerth mewn cynhadledd i'r wasg nad oedd ganddo fo "nag unrhyw un arall" gynlluniau i roi eu henwau ymlaen yn y ffenestr yma.

Mae Mr Price hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan aelodau o'i blaid leol i sefyll am yr arweinyddiaeth.

'Pennod newydd'

Ddydd Mercher fe rannodd Mr ap Iorwerth ddatganiad i aelodau'r blaid.

"Ychydig wythnosau yn 么l, fe wnaeth Leanne wahodd trafodaeth am arweinyddiaeth Plaid Cymru, trafodaeth allai arwain at ail-gadarnhau ei harweinyddiaeth hi, neu agor pennod newydd yn hanes Plaid Cymru," meddai.

"Mae cryn drafod wedi bod ers hynny yngl欧n 芒 gwerth cael trafodaeth o'r fath, ac mae cefnogwyr ac aelodau o'r Blaid o bob rhan o Gymru - o gymoedd y de i'r gogledd a'r canolbarth, o'r gorllewin i Gaerdydd - wedi fy annog i i ganiat谩u i fy enw gael ei gynnig.

"Mae'r anogaeth wedi dod o bob haen etholedig, ond yn bennaf o blith aelodau cyffredin, yn cynnwys rhai yr wyf yn llawn ddisgwyl iddyn nhw gefnogi Leanne.

"A dyna'r pwynt - trafodaeth adeiladol ddylai hon fod, un bositif i egn茂o'r Blaid a Chymru, ac yn yr ysbryd yna yr wyf yn derbyn yr enwebiad."

Yn ei ddatganiad yntau dywedodd Mr Price ei fod wedi "derbyn llawer o negeseuon" yn gofyn iddo sefyll.

"Mae'r lefel o anogaeth a'r gefnogaeth a gefais er nad oeddwn wedi datgan unrhyw fwriad i sefyll wedi bod yn anrhydedd," meddai.

Ychwanegodd ei fod wedi trafod ei gynnig am arweinyddiaeth ar y cyd gyda Leanne Wood er mwyn ceisio "osgoi yr angen i herio", ond bod y trafodaethau hynny wedi'u "tanseilio".

"Byddaf nawr yn derbyn yr enwebiadau a gefais i geisio arwain Plaid Cymru," meddai.

"Byddaf yn defnyddio'r ymgyrch hon i rannu a thrafod syniadau polisiau creadigol yn frwdfrydig ar gyfer Cymru ffyniannus, hyderus ac annibynnol gydag aelodau'r Blaid a fydd bellach yn cael y cyfle y maent wedi galw am i ddweud eu dweud ar adeiladu Plaid Cymru wedi ei hadnewyddu at y dyfodol."

'Dim bwriad' clymbleidio

Wrth siarad 芒 麻豆官网首页入口 Cymru ddydd Mercher dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion, Ben Lake fod yr her i'r arweinyddiaeth yn "newyddion i'w groesawu".

"Mae Leanne eisoes wedi dweud bod angen i ni gael y drafodaeth yma, ac yn croesawu'r gystadleuaeth," meddai.

"Dwi'n credu bydde fe'n beth da i'r blaid.

"Mae'n sicr dipyn o drafod wedi bod dros y pythefnos, dair wythnos diwethaf am yr arweinyddiaeth a'r cyfeiriad ni'n mynd iddo fel plaid - a oes angen ailystyried y strategaeth, y cynllun - a dwi'n credu bod hynny'n beth da."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Ben Lake ei fod yn croesawu'r frwydr arweinyddol

Pan ofynwyd i Rhun ap Iorwerth ar raglen Taro'r Post ddydd Mercher am ei farn am ddod i gytundeb gyda'r Ceidwadwyr ar 么l etholiad 2021, atebodd:

"'Sgen i ddim math o fwriad cael cytundeb gyda'r Tor茂aid - cael Plaid Cymru i arwain llywodraeth ydy'r nod.

"'Sgen i ddim ffansi cael clymblaid efo'r Ceidwadwyr, ond 'sgen i ddim ffansi cael clymblaid efo Llafur chwaith.

"Allai ddim rhagweld unrhyw sefyllfa lle allwn i gefnogi prif weinidog Llafur."