麻豆官网首页入口

Gorsaf b诺er Wylfa Newydd yn 'peryglu safle adar'

  • Cyhoeddwyd
Bae CemlynFfynhonnell y llun, Nia H Jones/NWWT
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Bae Cemlyn yn gartref i filoedd o adar, gan gynnwys m么r-wenoliaid pigddu

Gallai safle nythu adar sydd 芒 phwysigrwydd rhyngwladol gael ei effeithio gan gynllun i adeiladu gorsaf b诺er niwclear, yn 么l cadwraethwyr.

Mae pryder y gallai adeiladu gorsaf Wylfa Newydd hefyd niweidio gwlypdiroedd pan fydd hyd at 4,000 o weithwyr ar y safle.

Dywedodd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru y byddai'n herio'r orsaf drwy'r broses gynllunio.

Mae cwmni P诺er Niwclear Horizon yn dweud ei fod yn anelu at leihau niwed amgylcheddol.

Dros 1,000 o adar

Dadl yr ymddiriedolaeth yw bod y cynllun yn peryglu'r warchodfa mae'n ei reoli ym Mae Cemlyn.

Yno mae'r unig gr诺p o f么r-wenoliaid pigddu yng Nghymru, gyda phoblogaeth o dros 1,000 o adar.

Mae'r bae yn ardal gadwraeth arbennig, gyda chribyn o gerrig yn rhannu lag诺n a'r m么r.

Ond mae amgylcheddwyr yn credu y gallai creu harbwr dwfn fel rhan o'r cynllun niwclear fod yn niweidiol iawn.

Ffynhonnell y llun, Ben Stammers/NWWT
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y bae yw'r unig le yng Nghymru lle mae m么r-wenoliaid pigddu yn nythu

"Gall fod newidiadau i gerrynt morol drwy adeiladu morglawdd 500m yno," meddai Teresa Hughes, swyddog cynllunio sy'n cynghori'r gr诺p amgylcheddol.

"Gallai wthio d诺r dros y cribyn a niweidio neu olchi'r argae i ffwrdd.

"Mae hynny'n effaith sydd 芒 goblygiadau hirdymor."

Mae Horizon yn gwadu'r honiad, gan ddweud na fyddai unrhyw effaith andwyol ar y lag诺n.

'Lleihau'r effaith'

Mae pryder hefyd am benderfyniad i leoli llety i 4,000 o weithwyr ger safle o ddiddordeb gwyddonol dros y cyfnod adeiladu o 10 mlynedd.

Yn 么l y gr诺p amgylcheddol, mae Tre'r Goff yn gartref i blanhigion prin, ffyngoedd, ymlusgiaid a mamaliaid bychain.

Dywedodd llefarydd ar ran Horizon eu bod wedi gweithio am "sawl blynedd" i ddatblygu eu cynllun, a'u "bwriad bob tro yw lleihau unrhyw effaith amgylcheddol" .

Ychwanegodd y byddai'r cwmni'n gweithio gyda nifer o grwpiau lleol ar "nifer o brosiectau ecolegol eraill" yn y dyfodol.