麻豆官网首页入口

Pryder 'gwirionedol' am gyffuriau yng Ngharchar Berwyn

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Golwg y tu mewn i Garchar Berwyn

Mae pryderon "gwirioneddol" bod cyffuriau anghyfreithlon "ar gael yn hawdd" mewn carchar yng ngogledd Cymru.

Mae'r pryder wedi ei amlygu mewn adroddiad gan gorff annibynnol sy'n monitro sut mae carcharorion yn cael eu trin yng Ngharchar Berwyn, Wrecsam.

Daw hynny ddyddiau'n unig ar 么l i swyddogion y carchar honni bod "cyfres o ymosodiadau" yn erbyn staff, yn cynnwys poeri ar staff neu eu gwthio i lawr grisiau.

Mae'r adroddiad yn gofyn i "bob mesur posibl gael ei gyflwyno i wella'r sefyllfa annerbyniol yma".

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod yr adroddiad yn cydnabod y "gwaith gwych" sy'n digwydd yn y carchar, ond hefyd yn cydnabod bod cyffuriau'n broblem.

Polisi moddion

Yn ogystal ag argaeledd cyffuriau, mae'r adroddiad yn dweud bod y polisi moddion yn achos pryder gan fod carcharorion sy'n rhoi prawf positif am gyffuriau yn colli'r hawl i gymryd moddion sydd ar bresgripsiwn, hyd yn oed os ydyn nhw'n foddion seiciatryddol.

Dywedodd yr adroddiad bod "canran o ddynion yn mynd drwy ddadwenwyniad gorfodol sydd yn anochel yn cael effaith ar eu hymddygiad, ac yn ychwanegu at y problemau cyflenwi a galw yng nghyswllt cyffuriau anghyfreithlon yn y sefydliad".

Carchar Berwyn

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth tua 50 o swyddogion at ei gilydd ger giatiau Carchar Berwyn ddydd Llun i drafod honiadau o ymosodiadau ar staff

Nododd carcharorion mai "cyffuriau a dyled yn sgil hynny" oedd y rheswm mwyaf am drais, gydag 19% yn dweud nad ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod achosion lle mae angen defnyddio grym yn digwydd yn rhy aml, a bod diffyg profiad y rhan fwyaf o staff (89%) yn effeithio ar eu gallu i dawelu sefyllfaoedd treisgar.

Roedd 105 o gwynion am gydraddoldeb rhwng Mawrth 2017 a Chwefror 2018, gan gynnwys naw yn ymwneud ag ailbennu rhywedd, 44 am hil, 10 am dueddiad rhywiol a 15 am anabledd.

Yn ychwanegol, mae'r adroddiad yn dweud bod heriau sylweddol gan fod y safle'n "gwbl wahanol" i garchardai eraill, ac felly bod angen rheoli'r cynnydd ym mhoblogaeth y carchar yn ofalus yn y dyfodol.

Er hynny, mae'n ychwanegu: "Ni ellir gorbwysleisio her codi sefydliad o faint a chymhlethdod Berwyn o'r 'bwrdd dylunio' ac mae'r ffaith ei fod yn weithredol, gyda llawer o enghreifftiau o arfer da ac arloesol, yn gyflawniad sylweddol."

'Cyffuriau dal yn broblem'

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod y bwrdd monitro wedi cydnabod y "gwaith gwych sydd wedi ei wneud gan y llywodraethwr a'i staff" yn y carchar.

Dywedodd y Gweinidog Carchardai, Rory Stewart: "Dwi'n hynod falch bod y carchar wedi ei ganmol am y gwaith gwych o ddiwygio troseddwyr, eu helpu i ddysgu sgiliau newydd a gweithio'n agos gyda chyflogwyr lleol i ddarganfod swyddi iddyn nhw pan maen nhw'n cael eu rhyddhau."

Er hynny, ychwanegodd bod "cyfraddau uchel o ddefnydd cyffuriau yn parhau'n broblem ddifrifol", ond bod gwaith i fynd i'r afael 芒 hynny eisoes wedi dechrau.