Cynnal G诺yl Arall Caernarfon am y 10fed gwaith

Disgrifiad o'r llun, Bydd nifer o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau ar Stryd y Plas

Bydd dros 50 o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ar draws Caernarfon y penwythnos yma wrth i G诺yl Arall gael ei chynnal am y 10fed gwaith.

Cafodd yr 诺yl gyntaf ei chynnal yn 2009 pan gafodd un o'r trefnwyr, Nici Beech, ei hysbrydoli gan ddigwyddiad tebyg yn Nhalacharn.

Bydd digwyddiadau'n cael eu cynnal mewn lleoliadau ar draws y dref dros y penwythnos, gan gynnwys yn y castell, Clwb Canol Dre, Galeri a Stryd y Plas.

Mae'r arlwy eleni'n cynnwys digwyddiadau cerddorol, celfyddydol a llenyddol.

Mae'r rhain yn cynnwys Ffotofarathon, sef cystadleuaeth ffotograffiaeth sy'n agored i bawb, a'r Pyb Cr么l Lenyddol yng nghwmni beirdd lleol.

Bydd dros 15 o fandiau yn perfformio yn y castell hefyd, gan gynnwys Celt, Adwaith, Los Blancos a Candelas.

Disgrifiad o'r llun, Bydd bandiau'n diddanu'r dorf yng Ngastell Caernarfon

Dywedodd Ms Beech: "Mae'r 糯yl bellach yn enwog am ei llu o ddigwyddiadau amrywiol, difyr ac unigryw a bydd g诺yl eleni yn ddim gwahanol.

"I rai, bydd cyfle i gael ffics o gerddoriaeth mewn awyrgylch hamddenol.

"I eraill, bydd yn gyfle i ymgolli mewn sgyrsiau, teithiau a chelf gan amrywiaeth o feirdd, llenorion, haneswyr ac artistiaid."

Mae mwy o wybodaeth i'w gael .