麻豆官网首页入口

Adam Price: 'All Plaid Cymru ddim ennill 芒 Leanne Wood'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Price yn "benderfynol" o ennill ras arweinyddiaeth

All Leanne Wood ddim dod yn brif weinidog nesaf Cymru, yn 么l un o'r ACau sy'n ei herio am arweinyddiaeth Plaid Cymru.

Yn ei gyfweliad cyntaf gyda 麻豆官网首页入口 Cymru ers cyhoeddi ei fod yn sefyll, dywedodd Adam Price y byddai Plaid yn colli'r etholiad Cynulliad nesaf os nad oedd newid.

Dywedodd y gallai "greu'r momentwm" oedd ei angen ar y blaid.

Mae Mr Price yn cystadlu yn erbyn Rhun ap Iorwerth a Ms Wood am y swydd.

'Cyfle prin'

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn credu y gallai Ms Wood ddod yn brif weinidog, dywedodd Mr Price: "Rydyn ni wedi cyrraedd croesffordd fel plaid.

"Os ydyn ni'n parhau ar yr un llwybr fe fyddwn ni'n colli'r etholiad nesaf, a bydd hynny'n drasiedi.

"Mae gennym ni gyfle prin yn fan hyn. Mae'r blaid Lafur wedi bod yn rym eithriadol o gryf o fewn gwleidyddiaeth Cymru ac fe fyddan nhw'n fregus yn yr etholiad nesaf.

"Mae Mark Drakeford yn ddyn neis ac abl iawn, ond all e ddim mewn gwirionedd bortreadu ei hun fel y newid mawr sydd wir ei angen ar y wlad hon."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Leanne Wood ddod yn arweinydd Plaid Cymru yn 2011

Ychwanegodd Mr Price y gallai "greu'r momentwm sydd ei angen er mwyn i bobl gredu unwaith eto y gallai'r wlad fod yn wahanol".

"Mae'n rhaid i ni ddangos i bobl fod gennym ni'r awydd, yr awch, yr uchelgais i arwain llywodraeth nesaf Cymru," meddai.

"Mae gen i'r uchelgais yna. Roedd yn benderfyniad anodd i mi ond nawr dwi'n benderfynol o'i wneud e."

'Heb addasu i ddatganoli'

Cyn i Mr Price a Mr ap Iorwerth gyhoeddi y byddan nhw'n sefyll, dywedodd Ms Wood y byddai hi'n camu o'r neilltu os nad oedd hi'n dod yn brif weinidog ar 么l etholiad Cynulliad 2021.

Fe wnaeth hi groesawu'r her i'w harweinyddiaeth, a hynny ar 么l wfftio awgrym Mr Price i rannu'r awenau.

Dywedodd Mr Price fod Plaid Cymru, er eu bod nhw wastad wedi ymgyrchu dros fwy o bwerau i Gymru, "wedi addasu waethaf i'r amgylchedd ar 么l datganoli".

"Yn hanesyddol rydyn ni wedi bod yn blaid o brotest, sydd yn y b么n yn golygu beirniadu'r pethau afiach mae llywodraethau yn Llundain wedi'i wneud i Gymru," meddai.

"Ond mae angen i ni gael y sgwrs na am ein llywodraeth ein hunain - dydyn ni heb wneud y newid meddyliol yna."