Ymestyn cynllun brechu HPV Cymru i fechgyn 12 a 13 oed

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Bydd pigiad sy'n amddiffyn yn erbyn firws sy'n achosi canser ceg y groth hefyd yn cael ei gynnig i fechgyn yn eu harddegau cynnar, yn 么l yr ysgrifennydd iechyd.

Mae brechlyn Feirws Papiloma Dynol (HPV) yn cael ei gynnig ar hyn o bryd i ferched 12 a 13 oed.

Mae'r Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi awgrymu ymestyn y rhaglen i fod ar gael i fechgyn o'r un oedran hefyd.

Dywedodd Vaughan Gething y byddai'n dilyn eu cyngor, ac y byddai gwneud hynny yn helpu achub mwy o fywydau yn y dyfodol.

Beth yw HPV?

Firws Papiloma Dynol (human papillomavirus) yw'r enw ar gyfer gr诺p o firysau sy'n cael ei basio trwy gyswllt rhywiol.

Mae'r mwyafrif o heintiau HPV yn gadael y corff mewn amser, ond gall rhai ohonynt achosi problemau difrifol.

I fechgyn, gall hyn gynnwys canser yr anws, pidyn, ceg a'r gwddf.

Disgrifiad o'r llun, Mae merched 12 a 13 oed wedi bod yn cael cynnig brechiad HPV ers 2008

Dywedodd Mr Gething: "Byddwn nawr yn gweithio gyda GIG Cymru ar weithredu'r rhaglen newydd a'i wneud ar gael cyn gynted ag sy'n ymarferol."

Mae Llywodraeth Yr Alban hefyd wedi cyhoeddi y byddan nhw'n ymestyn eu cynllun brechu hwythau i fechgyn.

Mae adran iechyd Lloegr wedi dweud y byddan nhw'n gwrando ar y cyngor ac yn ystyried diweddaru eu polisi yn fuan.