麻豆官网首页入口

Adam Price yn galw am gynnydd 1c mewn treth i hybu addysg

  • Cyhoeddwyd
Adam Price
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Adam Price gallai buddsoddiad wneud y system addysg yng Nghymru "mor fodern ag unrhyw un arall yn y byd."

Fe allai treth incwm yng Nghymru godi geiniog er mwyn cynyddu'r gwariant ar addysg, yn 么l un o ymgeiswyr arweinyddiaeth Plaid Cymru, Adam Price.

Dywedodd yr AC dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ei fod eisiau 拢1bn o incwm yn ychwanegol i gael ei wario ar addysg dros y pum mlynedd nesaf.

Mae gan Lywodraeth Cymru'r grym i newid treth incwm o Ebrill 2019.

Wrth ysgrifennu yn y Sunday Times, Dywedodd Mr Price gallai buddsoddiad wneud y system addysg yng Nghymru "mor fodern ag unrhyw un arall yn y byd."

"Fe fyddwn yn creu campws newydd drwy Gymru a phrifysgolion arbenigol gan gynnwys colegau i ateb y galw am sgiliau angenrheidiol.

'Ysgolion modern'

"Byddwn yn adeiladu ysgolion modern i bawb, nid yn unig i'r rhai lwcus," meddai.

Dywedodd fod Cymru yn wlad sy'n "sgrechian allan am syniadau newydd".

Mae Mr Price yn herio arweinydd presennol Plaid Cymru, Leanne Wood a Rhun ap Iorwerth i arwain y blaid.

Bydd canlyniad arweinyddiaeth Plaid Cymru yn cael ei gyhoeddi ym mis Medi 2018.

Yn gynharach eleni fe wnaeth adroddiad gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Caerdydd awgrymu buasai cynnydd o 1c yn y dreth incwm yn dod a 拢184m y flwyddyn yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru, neu 拢1bn dros bum mlynedd.

Mae'r llywodraeth bresennol dan arweinyddiaeth y Blaid Lafur wedi gwrthod unrhyw newid i'r dreth incwm cyn etholiad nesaf y Cynulliad yn 2021.