Defnyddio'r Gymraeg gyda sefydliadau'n 'dal i wella'

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Meri Huws ei bod "wir yn dechrau gweld llwyddiant"

Mae'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg gyda sefydliadau cyhoeddus yn parhau i wella, yn 么l Comisiynydd y Gymraeg.

Cafodd adroddiad 'Mesur o Lwyddiant' ei gyhoeddi ddydd Llun, a dyma'r pedwerydd adroddiad i'r comisiynydd ei gyhoeddi sy'n rhoi barn annibynnol ar y ffordd mae sefydliadau cyhoeddus yn defnyddio'r Gymraeg.

Daw'r adroddiad yn dilyn cyfres o arolygon ac ymchwil am brofiadau'r cyhoedd, ynghyd 芒 thystiolaeth gan y sefydliadau eu hunain.

Bu Meri Hughes yn cynnal trafodaeth ar ganfyddiadau'r adroddiad mewn sesiwn ar faes yr Eisteddfod ddydd Llun, gyda'r Aelod Seneddol Liz Saville-Roberts, arweinydd Cyngor Caerdydd Huw Thomas a phrif gwnstabl cynorthwyol Heddlu De Cymru, Jeremy Vaughan.

Prif ganfyddiadau

Mae prif ganfyddiadau'r adroddiad yn cynnwys bod:

  • Cyfarchiad Cymraeg gan dderbynnydd yn ystod 89% o alwadau ff么n i sefydliadau cyhoeddus;
  • Ymateb Cymraeg i e-bost mewn 93% o achosion;
  • 100% o beiriannau hunanwasanaeth yn gweithio'n llawn yn Gymraeg;
  • 82% yn cytuno fod cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg gyda chynghorau sir yn cynyddu neu wedi aros yr un peth.

Yn 么l Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: "Mae tystiolaeth glir erbyn hyn bod safonau'r Gymraeg wedi arwain at wella profiadau siaradwyr Cymraeg wrth iddynt dderbyn gwasanaethau gan sefydliadau cyhoeddus.

"Mae hyn i'w weld ym mhob cwr o Gymru ac yn arwydd bod fframwaith effeithiol, ar y cyd ag ymdrech gwirioneddol gan sefydliadau, yn cael effaith gadarnhaol."

'Gorfod gofyn am y Gymraeg'

Ond dyw'r newyddion ddim yn gadarnhaol i gyd, wedi iddi ddod i'r amlwg bod angen gofyn am y gwasanaeth Cymraeg yn 19% o'r achosion dros y ff么n, a dim ond mewn 46% o ymweliadau 芒 derbynfeydd roedd staff oedd yn gallu siarad Cymraeg yn gwisgo bathodynnau i ddangos hynny.

Dywedodd Ms Huws: "Rydyn ni'n awyddus i ddeall pa ffactorau sy'n effeithio ar benderfyniad pobl i ddefnyddio'r gwasanaethau sydd ar gael ai peidio.

"Un arfer rydym yn credu'n gryf ynddo yw'r 'cynnig rhagweithiol' - a beth mae hynny yn ei olygu ydy bod y gwasanaeth Cymraeg ar gael yn amlwg i ddefnyddiwr, heb orfod gofyn amdano.

"Gall hynny fod trwy gynlluniau fel gwisgo'r bathodyn oren Iaith Gwaith, rhoi'r cynnig ar lafar wrth ateb y ff么n neu drwy ddulliau electronig sy'n rhoi dewis iaith o'r dechrau - ar beiriannau hunanwasanaeth neu beiriant ateb awtomatig er enghraifft."

System 'ifanc'

Mae'r adroddiad hefyd yn awgrymu bod cyfleoedd newydd i staff sefydliadau ddefnyddio'r Gymraeg yn eu gwaith yn sgil gweithredu safonau.

Mae hefyd yn dweud bod rhai sefydliadau nawr yn cadw golwg ar eu perfformiad eu hunain, gan olygu nad oes angen i'r comisiynydd ymyrryd.

Mynnodd y comisiynydd ei bod yn parhau yn rhy gynnar i feirniadu'r safonau iaith gan fod y system yn dal yn "ifanc".

"Allwch chi ddim dweud bod rhywbeth ddim yn gweithio ar 么l dwy flynedd a hanner yn unig," meddai.

'Ofn mentro'

Ychwanegodd ei bod efallai wedi bod "ofn pechu" i ddechrau, ond bod y safonau iaith nawr yn fwy mentrus, a bod angen parhau i "feddwl mewn ffyrdd radical".

"Ry'n ni wir yn dechrau gweld llwyddiant, ac mae'n rhaid i ni adeiladu ar hynny yn hyderus," meddai Ms Huws.

"Allwch chi ddim disgwyl gweld llwyddiant heb wneud rhywbeth, ac efallai ein bod ni yn y blynyddoedd cyntaf wedi bod braidd yn rhy ofnus o fentro."