Llai o bobl yn siopa yn y tywydd poeth

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Bu llai o bobl yn ymweld 芒 siopau yn ystod y tywydd poeth, yn 么l ystadegau.

Mae ffigyrau Consortiwm Manwerthu Cymru yn dangos bod gostyngiad o 2.2% yn y nifer o bobl fu'n ymweld 芒 siopau ym mis Gorffennaf, ar 么l deufis o gynnydd mewn niferoedd.

Yn ogystal, mae canran y siopau gwag ar y stryd fawr hefyd wedi cynyddu.

Yn 么l pennaeth polisi a materion allanol y consortiwm, mae'r ffigyrau yn "siomedig iawn".

Mis heriol

Y stryd fawr cafodd y cwymp mwyaf yn nifer yr ymwelwyr, gyda 3.9% yn llai o bobl yn mynd i siopa, tra bod parciau diwydiannol wedi gweld cynnydd o 1.4%.

Dangosodd y ffigyrau hefyd fod cyfraddau gwacter trefi wedi cynyddu o 12.5% ym mis Ebrill i 12.6%, sy'n golygu fod ffigwr Cymru'n uwch na'r cyfartaledd o 9.2% yn y DU.

Yn 么l Diane Wehrle, cyfarwyddwr marchnata Springboard: "Yn anochel, mae'r tywydd poeth ym mis Gorffennaf wedi effeithio ar siopau wrth i bobl fwynhau'r tywydd tu allan."

Serch hynny, soniodd Ms Wehrle bod gwerthiant barbeciws a dodrefn ar gyfer yr ardd wedi codi, sydd wedi bod yn fanteisiol yn sgil diffyg gwerthiant dodrefn a phethau eraill.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae mwy o siopau gwag ar strydoedd Cymru o'i gymharu a gweddill gwledydd Prydain, yn 么l ffigyrau

Dywedodd Sara Jones, Pennaeth Polisi a Materion Allanol Consortiwm Manwerthu Cymru bod y ffigyrau yn "siomedig iawn" a'u bod yn dangos bod Gorffennaf wedi bod yn fis heriol i siopau'r wlad.

"Y gwir amdani yw bod nifer o fodelau busnesau manwerthu yn cael eu heffeithio gan newid yn arferion siopwyr, technoleg newydd a chostau'n codi," meddai.

"Mae ymateb i hyn i gyd yn golygu gwariant sylweddol ar blatfformau digidol, ar weithlu tra medrus a newid mewn logisteg a dulliau dosbarthu."

Dywedodd Ms Jones ei bod hi hefyd yn "gyfnod hynod o heriol" ar gyfer gweithredu'r fath newidiadau.