麻豆官网首页入口

拢2.8m o gyllid yr UE ar gyfer ymchwil ym Mhrifysgol Bangor

  • Cyhoeddwyd
Ffermio pysgod cregynFfynhonnell y llun, Portland Press Herald

Bydd Prifysgol Bangor yn manteisio ar 拢2.8m arall o gyllid yr UE ar gyfer canolfan wyddoniaeth ac arloesi newydd, yn 么l yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford ddydd Llun.

Mae hyd at 20 o fusnesau hefyd yn cymryd rhan mewn rhaglenni ymchwil gwyddonol i hybu'r diwydiant pysgod cregyn o fewn y pum mlynedd nesaf.

Bydd cyllid yr UE yn cefnogi ymchwil yng nghanolfan pysgod cregyn y Brifysgol, er mwyn sicrhau gwelliannau i ansawdd d诺r arfordirol, mabwysiadu technoleg a dulliau cynhyrchu newydd yn ogystal ag ehangu'r diwydiant i farchnadoedd newydd.

Dywedodd Mr Drakeford: "Bydd y buddsoddiad hwn yn gwella gallu busnesau i gystadlu, gan arwain at ddatblygu diwydiant pysgod cregyn cryf a chynaliadwy yng Nghymru".

Wedi'i lleoli yng Nghanolfan Forol Cymru, bydd y ganolfan pysgod cregyn yn adeiladu ar waith ymchwil Prifysgol Bangor mewn gwyddorau arfordirol a morol.

'Potensial i dyfu'

Yn 么l yr Ysgrifennydd Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths mae'r diwydiant "eisoes yn dod 芒 manteision economaidd sylweddol i Gymru" a bod ganddo'r "potensial i dyfu ymhellach gyda chymorth arbenigedd technolegol ac ymchwil wyddonol" y Brifysgol.

Ychwanegodd yr Athro Lewis Le Vay o Brifysgol Bangor: "Ein nod hirdymor yw i waddol y ganolfan pysgod cregyn fod yn gynaliadwy, gan dyfu'r sector cynhyrchu a phrosesu pysgod cregyn yng Nghymru.

"Gyda chymorth partneriaeth o wyddoniaeth ac arloesi, bydd y fenter hon yn gosod cynhyrchwyr pysgod cregyn Cymru ar y blaen yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol."

Mae mwyafrif y busnesau sydd ynghlwm 芒'r cynllun yn ymwneud 芒 ffermio pysgod cregyn, megis wystrys neu gregyn gleision.

Dywedodd James Wilson, cynrychiolydd Cynhyrchwyr Cregyn Gleision Bangor, fod gallu'r diwydiant i wrthsefyll effaith Brexit yn dibynnu'n rhannol ar arbenigedd gwyddonol, a bod y ganolfan hon yn "helpu i gyflawni hyn".