麻豆官网首页入口

Galw am sicrhau nad yw plant yn llwgu yn ystod y gwyliau

  • Cyhoeddwyd
BachgenFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae angen gweithredu ffordd newydd er mwyn sicrhau nad yw plant yn "cerdded strydoedd yn llwglyd" yn ystod y gwyliau, yn 么l yr Eglwys yng Nghymru.

Mae tua 2,500 o blant wedi cael pryd bwyd mewn 56 ysgol mewn 16 awdurdod lleol drwy gynllun gan Lywodraeth Cymru'r haf hwn.

Ond daw hyn er bod 64,882 o ddisgyblion rhwng 5-15 oed yn gymwys ar gyfer cinio ysgol am ddim yng Nghymru yn 2017-18.

Mae'r Comisiynydd Plant, Sally Holland wedi disgrifio tlodi plant fel y "broblem fwyaf" sy'n wynebu Llywodraeth Cymru.

'Gwarchod cynlluniau cymunedol'

Er bod yr Eglwys yng Nghymru yn dosbarthu pecynnau bwyd mewn ardaloedd, maen nhw'n pryderu bod nifer o blant yn colli allan.

Dywedodd Swyddog Ymgysylltu'r Eglwys yng Nghymru, Sarah Wheat fod cynllun Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo'r rheiny oedd yn gallu mynd neu eisiau mynd i'r ysgol yn ystod y gwyliau.

Ond mae hi'n galw am weld y 拢1m yn cael ei ddefnyddio i warchod cynlluniau cymunedol, gyda nifer yn diflannu oherwydd toriadau cyllid llywodraethau lleol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae tua 2,500 o blant wedi cael pryd bwyd mewn 56 ysgol mewn 16 awdurdod lleol drwy gynllun gan Lywodraeth Cymru'r haf hwn

Ychwanegodd Ms Wheat y gallai'r elfen fwyd gael ei ddarparu gan elusennau, gyda'r Eglwys yng Nghymru yn gwario 拢1 y pen ar brydau i blant.

"Mae gennych 60 neu 70 o blant yn ychwanegol yn cerdded y strydoedd yn llwglyd gyda dim i'w wneud," meddai.

"Beth maen nhw am ei wneud? Dim byd o werth."

Dywedodd Sally Holland: "Rydym i gyd yn ymwybodol o faint y broblem, ac rydym yn gwybod fod teuluoedd sydd mewn sefyllfaoedd bregus angen mwy o help."

'Brecwast a chinio'

Wrth ganmol gwaith grwpiau eglwysig, dywedodd y buasai'n cwrdd 芒 phlant a rhieni cyn gwneud unrhyw argymhellion i Lywodraeth Cymru yngl欧n 芒 sut fath o "gamau pendant" y byddai modd eu cymryd.

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud fod y cynllun sy'n cael ei weithredu yn "addysgol o ran ei natur".

"Rydyn ni'n gwybod nad yw cyrhaeddiad addysgol plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim mor uchel 芒'u cyfoedion," meddai.

"Mae'r cynllun hefyd yn cynnig brecwast a chinio."

Mae arian yn cael ei ddarparu fel grant i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy'n eu rhedeg drwy'r awdurdodau lleol.