Bwriad lansio platfform newydd ar gyfer e-lyfrau Cymraeg

Disgrifiad o'r llun, Mae'r galw am Llyfr Glas Nebo ar ffurf e-lyfr wedi ysgogi Kevin Beynon i agor platfform gwerthu e-lyfrau annibynnol ar-lein

Mae cwynion am ddiffyg e-lyfrau yn y Gymraeg wedi ysgogi technolegydd o Cumbria i sefydlu platfform annibynnol newydd i'w gwerthu.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf mae nifer wedi troi at gyfryngau cymdeithasol i fynegi eu siom nad oedd Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros - cyfrol fuddugol cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith eleni - ar gael ar ffurf e-lyfr.

Wrth greu elyfrau.cymru, dywedodd Kevin Beynon ei fod wedi gweld "cyfle i greu rhywbeth a rhoi cymorth i'r diwydiant" ac mae'n gobeithio agor y siop ar-lein yn 2019.

Mae Gwasg Y Lolfa erbyn hyn wedi datgan eu bod wedi cyhoeddi Llyfr Glas Nebo ar ffurf e-lyfr ac yn falch o'r "galw rhyfeddol" sydd wedi bod i'r gyfrol.

Newid yn y gyfraith

Er bod nifer o'r gweisg Cymraeg yn cyhoeddi e-lyfrau, nid ydynt yn dueddol o'u rhyddhau ar yr un pryd 芒'r llyfr print.

Dywedodd Mr Beynon, sy'n byw yn Cumbria ond yn enedigol o Benygroes yn Sir Gaerfyrddin, ei fod yn "grac" nad oedd yn gallu prynu Llyfr Glas Nebo ar ffurf e-lyfr yn syth.

Ei fwriad wrth greu elyfrau.cymru yw hwyluso'r broses honno a chyhoeddi e-lyfrau gan awduron a siopau annibynnol.

Disgrifiad o'r llun, Hafan elyfrau.cymru, sy'n bwriadu dechrau gwerthu e-lyfrau Cymraeg erbyn 2019

Cafodd y syniad o greu siop i werthu e-lyfrau Cymraeg ar-lein yn 2015 yn wreiddiol, ond newidiodd cyfreithiau Ewropeaidd gan wneud y broses o werthu gwaith digidol yn ddrytach ac yn fwy cymhleth.

Fodd bynnag, gyda newidiadau arfaethedig i'r cyfreithiau, gwelodd gyfle i droi yn 么l at y syniad, gan lansio'i wefan gyda'r bwriad o ddechrau gwerthu e-lyfrau erbyn 2019.

Yn 么l Mr Beynon: "Mae angen mwy o - nid cystadleuaeth mewn ffordd - ond esiamplau i lyfrwerthwyr o ffyrdd gwahanol o werthu cyfrolau."

Dywedodd Mr Beynon ei fod hefyd yn gobeithio gweld mwy o awduron Cymraeg yn manteisio ar y cyfle i hunangyhoeddi cyfrolau digidol.

"Ro'n i'n meddwl bod lle i awduron heblaw'r gweisg - dim byd yn erbyn y gweisg - ond mae lle i roi mwy o elw i'r awdur."

Codi ofn ar bobl

Y camau cyntaf wrth sefydlu'r siop ar-lein yw siarad gyda chyhoeddwyr, awduron a siopau llyfrau.

Mae Mr Beynon eisoes yn rhedeg Libreture - sef gwasanaeth storio e-lyfrau ar ran darllenwyr - ac IndieBookCards - talebau sy'n cynnwys codau i lawrlwytho e-lyfrau.

Disgrifiad o'r llun, Y galw am Llyfr Glas Nebo sydd wedi ysbrydoli Kevin Beynon i greu platfform annibynnol newydd i werthu e-lyfrau

Mae nifer o'r gweisg wedi mynegi eu bod yn rhagweld y byddai cyflwyno mwy o e-lyfrau yn effeithio ar werthiant siopau llyfrau, ond dywedodd Mr Beynon bod cynlluniau fel IndieBookCards yn cynnig gwrthrych i siopwyr allu gwerthu.

Esboniodd bod modd "curadu'r dewis" o e-lyfrau sydd ar gael mewn siopau yn 么l y galw, a photensial i werthu'r talebau mewn siopau anrhegion a thu hwnt hefyd.

"Fi'n si诺r bod y cynlluniau yn hala ofn ar rai pobl, ond dim dyna'r bwriad o gwbl," meddai.

"Mae'n siawns i greu rhywbeth a rhoi cymorth pellach i'r diwydiant."