Llafur: dwy drefn posib o ethol arweinydd

Disgrifiad o'r llun, Vaughan Gething (ch.) a Mark Drakeford (dd.) yw'r unig ddau ymgeisydd i sicrhau digon o enwebiadau ar hyn o bryd

Mae'r Blaid Lafur yn ystyried dwy ffordd wahanol o ethol arweinydd nesaf y blaid yng Nghymru.

Yn 么l y corff sy'n rheoli'r blaid yng Nghymru byddan nhw unai'n rhoi pleidlais gyfartal i bob aelod neu'n ethol arweinydd drwy ffurf ddiwygiedig o'r coleg etholiadol presennol.

Cafodd y system pleidlais gyfartal ei defnyddio i ethol Jeremy Corbyn, ond mae Llafur Cymru'n dal i ddefnyddio trefn y coleg etholiadol.

Bydd penderfyniad terfynol ar y mater y penwythnos nesa.

Roedd y cynigion o flaen y corff rheoli ddydd Sadwrn yn deillio o adroddiad gan y cyn aelod seneddol dros Dorfaen, Arglwydd Paul Murphy AS.

Daw'r etholiad yn yr hydref wedi i Carwyn Jones gyhoeddi y byddai'n camu o'r neilltu ar ddiwedd y flwyddyn.

Dau ymgeisydd sydd wedi sicrhau digon o gefnogaeth i fod ar y papur pleidleisio, sef Mark Drakeford a Vaughan Gething.

Os bydd y ffurf ddiwygiedig o'r coleg etholiadol yn cael s锚l bendith bydd aelodau cyffredin yn gyfrifol am 50% o'r coleg gydag aelodau cysylltiedig, fel undebau a gwleidyddion, yn gyfrifol am yr hanner arall.

Mae cynigion tebyg eisoes wedi cael eu cyflwyno gan undebau Unsain a'r GMB.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Jeremy Corbyn oedd arweinydd cyntaf y blaid Lafur i gael ei ethol drwy'r drefn newydd o un bleidlais i bob aelod

Ar hyn o bryd mae'r coleg wedi ei rannu'n dair rhan gyfartal, gydag aelodau cyffredin, aelodau undebau a gwleidyddion etholedig yn gyfrifol am dreuan yr un o'r bleidlais.

Dywedodd Darren Williams, aelod o'r corff rheoli: "Rydyn ni'n falch fod y penderfyniad wedi cael ei wneud i roi'r ddau gynnig a gafodd eu trafod yn adroddiad Arglwydd Murphy o flaen y gynhadledd arbennig wythnos nesaf, a bod y gynhadledd yn gyfrifol am y penderfyniad pwysig."

Fe ychwanegodd fod y corff rheoli wedi ffafrio'r syniad o ddiwygio'r coleg etholiadol, ond bod gan bobl yn y gynhadledd yr hawl i ystyried y ddwy ffordd wythnos nesaf.