Drakeford yn dweud y gallai gefnogi ail bleidlais Brexit

Mae Mark Drakeford wedi dweud y dylid cynnal ail bleidlais ar Brexit os nad yw hawliau gweithwyr yn cael eu gwarchod.

Bythefnos yn 么l dywedodd ei bod hi'n "rhy gynnar" i gefnogi ail refferendwm, ond y dylid cadw pob opsiwn yn agored.

Ond ddydd Mercher fe gefnogodd alwadau undebau llafur am gadw'r posibilrwydd yn agored i etholwyr gael lleisio'u barn ar y cytundeb terfynol gyda'r UE.

Mae'r ymgeiswyr eraill sydd yn gobeithio sefyll yn erbyn Mr Drakeford ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru eisoes wedi cefnogi pleidlais ar gytundeb terfynol Brexit.

'Angen gwarchod hawliau'

Fel yr Ysgrifennydd Cyllid, Mr Drakeford sydd wedi bod yn arwain strategaeth Brexit Llywodraeth Cymru.

Mae hefyd yn cael ei weld fel y ceffyl blaen i olynu Carwyn Jones pan fydd y prif weinidog yn camu o'r neilltu ym mis Rhagfyr.

Mewn datganiad, dywedodd ei fod yn cefnogi penderfyniad y TUC yn eu cynhadledd ym Manceinion ddydd Sul i gadw'r drws yn agored i bleidlais gyhoeddus ar y cytundeb Brexit terfynol.

"Yng Nghymru rydyn ni wastad wedi dweud, ers y refferendwm, fod angen gwarchod yr hawliau rydyn ni wedi'u hennill drwy ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd," meddai.

"Os nad yw'r Tor茂aid yn gallu darparu Brexit sy'n gwarantu y bydd hynny'n digwydd, wedyn mae'n rhaid i'r bobl benderfynu."

Fe fydd y datganiad yn cael ei weld fel arwydd o Mr Drakeford yn addasu ei safbwynt ar adeg pan mae galwadau cynyddol o fewn y blaid Lafur i gefnogi ail refferendwm.

Cyn y bleidlais ddydd Sul dywedodd arweinydd y TUC, Frances O'Grady: "Dwi eisiau rhoi gwybod i'r prif weinidog [Theresa May] heddiw, os na chawn ni'r fargen sydd ei angen ar weithwyr, y bydd y TUC yn taflu'n cefnogaeth lawn y tu 么l i ymgyrch ar gyfer pleidlais gyhoeddus fel bod cyfle i bobl gael dweud a yw'r cytundeb yn ddigon da neu ddim."