Beirniadu bwydlen cinio ysgol newydd Cyngor Gwynedd

Ffynhonnell y llun, School Food Plan

Mae aelod o Gyngor Gwynedd sy'n fam i bedwar o blant wedi beirniadu'r fwydlen newydd ar gyfer cinio ysgol y sir.

Yn 么l y cynghorydd Sian Hughes o Forfa Nefyn, mae'r fwydlen ar gyfer ysgolion cynradd yn ddiffygiol mewn sawl ffordd, ac nid yw'n rhoi gwerth am arian.

Dywedodd Ms Hughes ar raglen Post Cyntaf 麻豆官网首页入口 Radio Cymru fod y fwydlen yn un "gwan ofnadwy", yn dangos "diffyg dychymyg" a bod "diffyg maeth" yn yr hyn sy'n cael ei gynnig i'r plant.

Ond mae Cyngor Gwynedd yn mynnu bod y fwydlen yn cyd-fynd hefo'r gofynion cenedlaethol.

Mae , ac yn 么l llefarydd ar eu rhan "mae'n bwysig fod y fwydlen yn cael ei dilyn", er mwyn sicrhau fod pob plentyn yn derbyn y "lefel iawn o faeth".

Yn 么l Ms Hughes nid oes digon o amrywiaeth ar y fwydlen, yn ogystal 芒 diffyg bwyd digon swmpus i lenwi'r plant.

"Fel rhiant i bedwar o blant sy'n cael cinio ysgol, dwi ddim yn gweld bo' ni fel rhieni yn cael gwerth ein harian." meddai.

"Dydy o ddim yn mynd i lenwi'r plant... mae 'na ormod o carbohydrates... a dydy'r colofnau o bethau mae plant yn fod i'w gael ddim yno."

Beth sy'n gwneud cinio ysgol iach?

  • Rhaid darparu o leiaf un ddogn o lysiau neu salad bob dydd;
  • O leiaf un dogn o ffrwythau bob dydd;
  • Pysgod ar y fwydlen o leiaf unwaith yr wythnos;
  • Peidio 芒 gweini tatws a chynhyrchion tatws sydd wedi'u coginio mewn braster/olewau fwy na dwywaith yr wythnos;
  • Rhaid darparu cig ar o leiaf ddau ddiwrnod bob wythnos mewn ysgolion cynradd;
  • Peidio gweini cynhyrchion cig wedi'u adffurfio/ailansoddi;
  • Dylid annog bwyta amrywiaeth o fara gan gynnwys bara gwenith cyflawn;
  • Cyfyngu ar halen o ryseitiau neu ei waredu a defnyddio yn ei le berlysiau a sbeisys derbyniol.
  • Ni chaniateir i gacennau a bisgedi gynnwys unrhyw felysion.

Ffynhonnell:

Mewn ymateb i g诺yn Ms Hughes, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod y cyngor yn cynnig prydau bwyd maethlon sy'n cydymffurfio hefo rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion.

"Mae'r fwydlen yn cydymffurfio hefo'r gofynion cenedlaethol ac wedi'i gymeradwyo gan Gydlynydd Bwyd Ysgolion, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru," meddai.

Dywedodd fod y fwydlen cynradd yn "amrywiol a chytbwys sy'n cynnwys bwyd sy'n apelio i'r 4,800 o blant oed cynradd sy'n dewis bwyta cinio ysgol".

Ychwanegodd y llefarydd y byddai swyddogion yn hapus i drafod unrhyw awgrymiadau hefo'r cynghorydd Sian Hughes.