麻豆官网首页入口

Trefn un-aelod-un-bleidlais i ddewis arweinydd Lafur Cymru

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y drefn newydd yn gosod y rheolau pleidleisio ar gyfer dewis arweinydd i olynu Carwyn Jones

Mae cynhadledd arbennig o'r Blaid Lafur yng Nghaerdydd wedi penderfynu ar drefn un-aelod-un-bleidlais, ar gyfer dewis arweinydd newydd fydd yn olynu Carwyn Jones fel Prif Weinidog Cymru.

Fe wnaeth 64% bleidleisio o blaid y newid.

Roedd gan gynadleddwyr ddewis rhwng dau opsiwn, naill ai dewis defnyddio'r drefn un-aelod-un-bleidlais, fel y mae Llafur yn gwneud yng ngweddill Prydain, neu ddiwygio'r drefn bresennol.

Daw'r newid yn dilyn misoedd o ddadlau yngl欧n 芒 faint o ddylanwad dylai'r aelodau cyffredin gael dros y gystadleuaeth.

Bydd y drefn newydd y rhoi pleidlais gyfartal i bob aelod.

Adolygiad Arglwydd Murphy

Fe fyddai'r opsiwn arall wedi golygu newid coleg etholiadol Llafur Cymru, gan roi hanner y bleidlais i aelodau'r blaid a hanner i aelodau cysylltiedig.

Dywedodd Carwyn Jones fod y drafodaeth wedi bod yn un "aeddfed a pharchus."

"Rydym wedi gorffen trafod a hynny heb gael ein taro oddi ar ein prif bwrpas o sefyll dros bobl Cymru, yn wynebu Llywodraeth Dor茂aidd greulon.

"Rwy'n falch fod gennym lwybr Llafur Cymru penodol, sydd wedi ei ffurfio yma yng Nghymru, ac sy'n cydnabod pwysigrwydd hanfodol ein cyfeillion yn yr Undebau Llafur o fewn ein plaid."

Penderfynodd Llafur Cymru fod angen newid y drefn yn dilyn adolygiad gan yr Arglwydd Murphy.

Daeth hyn ar 么l i gefnogwyr y drefn un-bleidlais brotestio yn erbyn penderfyniad y blaid i gadw'r coleg etholiadol traddodiadol.

Roedd yr hen goleg etholiadol yn rhannu'r bleidlais yn dair rhwng aelodau, undebau a gwleidyddion.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Vaughan Gething a Mark Drakeford wedi wedi sicrhau digon o enwebiadau i sefyll yn y ras

Ymhlith y rhai o blaid newid i drefn un-aelod-un-bleidlais oedd Ysgrifennydd Cyllid, a'r ffefryn i olynu Carwyn Jones fel arweinydd, Mark Drakeford

Roedd yr undeb mwyaf, Unite Cymru, hefyd o blaid.

Bydd Carwyn Jones yn ildio'r awenau i'w swydd fel arweinydd Llafur Cymru ym mis Rhagfyr.

Ar hyn o bryd, dim ond Mr Drakeford a Vaughan Gething sydd wedi sicrhau digon o enwebiadau i sefyll yn y ras i'w olynu.

Mae Eluned Morgan, Alun Davies a Huw Irranca Davies hefyd wedi dweud bod ganddynt ddiddordeb mewn sefyll, ond nid oes ganddynt yr un enwebiad eto.