Ap锚l awdures amlwg i bobl gefnogi siopau'r stryd fawr

Disgrifiad o'r llun, Mae Clare Mackintosh wedi dod i gytundeb gyda Gwyn Sion Ifan ynghylch dosbarthu archebion ar-lein am ei llyfrau

Mae awdures ffuglen amlwg sy'n dysgu Cymraeg ers symud i Gymru gyda'i theulu yn annog pobl i gefnogi siopau'r stryd fawr.

Mae llyfrau ias a chyffro Clare Mackintosh, sydd bellach yn byw yn Y Bala, wedi bod ar ben rhestr gwerthiant wythnosol y Sunday Times.

Erbyn hyn mae ganddi drefniant sy'n golygu mai ei siop lyfrau leol, Awen Meirion, sy'n dosbarthu cop茂au o'i nofelau sy'n cael eu harchebu trwy ei gwefan.

Yn 么l rheolwr y siop, mae'r trefniant "wedi bod yn hwb aruthrol i'r busnes" oherwydd gwerthiant "anhygoel" ei gwaith ledled y byd.

Pwysigrwydd siopa'n lleol

Mae nofelau'r cyn blismones - sy'n cynnwys I Let you Go ac I See You - wedi gwerthu cannoedd o filoedd o gop茂au ar draws y byd, ac mae'n dweud ei bod yn credu'n gryf mewn cefnogi busnesau bach.

"Yn fy marn i, mae'n bwysig iawn i siopa yn lleol," meddai.

"Os 'da ni'n siopa yn unig ar-lein, 'da ni'n colli'r stryd fawr."

Disgrifiad o'r llun, Let Me Die yw trydedd nofel yr awdures

"Pan mae Clare yn cael archebion, mae hi wedyn yn pasio'r archebion yna yn uniongyrchol i ni," meddai rheolwr Awen Meirion, Gwyn Sion Ifan.

"'Da ni'n delio 芒 chwsmeriaid Clare yn unigol wedyn, yn trefnu y taliad ac yn trefnu'r dosbarthiad.

"Mae'r dosbarthiad wedi bod yn fyd-eang. 'Dan ni 'di gyrru llyfra' i wledydd 'da ni 'rioed wedi 'neud o'r blaen oherwydd y diddordeb rhyng-genedlaethol a rhyngwladol yng ngwaith Clare."

Y canlyniad, ychwanegodd, yw "bod 'na gofnod manwl o holl werthiant llyfra' Clare, yn y gobaith maes o law y bydd hyn yn arwain at fedru cofnodi holl waith awduron Cymru".

Disgrifiad o'r llun, Mae Clare Mackintosh yn ymlacio a hel syniadau yn ardal Llyn Tegid

Yn wreiddiol o Sir Buckingham, fe symudodd yr awdures i'r Bala ddwy flynedd yn 么l gyda'i g诺r a'u plant.

Dywedodd bod harddwch naturiol yr ardal yn ei hysbrydoli.

"Pan 'dwi'n edrych am syniadau, 'dwi'n licio mynd am dro yma, a nofio yn y llyn," meddai, gan ddisgrifio Llyn Tegid fel "lle hyfryd" sy'n ei helpu i ymlacio.

Ychwanegodd bod hi'n "bwysig" ei bod yn "trio dysgu Cymraeg hefyd" gan fod ganddi "dri o blant sy'n siarad Cymraeg r诺an yn yr ysgol".