麻豆官网首页入口

Carwyn Jones yn dechrau ras Llafur yn swyddogol

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones

Mae Carwyn Jones wedi dechrau'r ras am arweinyddiaeth Llafur Cymru yn swyddogol drwy roi "hysbysiad ffurfiol" am ei fwriad i gamu i'r neilltu.

Mewn llythyr i gadeirydd y blaid, Margaret Thomas, dywedodd ei fod yn rhoi gwybod y byddai'n gadael y swydd ym mis Rhagfyr.

Dywedodd y Prif Weinidog bod swyddogion wedi cytuno ar amserlen sy'n caniat谩u i'r etholiad ddechrau yn syth, gyda'r canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar 6 Rhagfyr.

Mae'n bwriadu ymddiswyddo yn y Senedd ar 11 Rhagfyr.

Daeth y llythyr i'r amlwg mewn neges ar Twitter gan AC Llanelli, Lee Waters.

Y gred yw y gallai enwebiadau agor yn ffurfiol ddydd Mawrth.