麻豆官网首页入口

Her nesaf Ambiwlans Awyr Cymru yw cynnig gwasanaeth 24/7

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dewi Thomas sy'n ein tywys o gwmpas un o'r hofrenyddion

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn gobeithio gallu ehangu'r gwasanaeth a sicrhau eu bod yn gallu hedfan yn amlach yn ystod y nos.

Daw'r cyhoeddiad am yr her nesaf i'r gwasanaeth wrth iddyn nhw gadarnhau eu bod wedi cwblhau 30,000 o deithiau achub.

Mae angen 拢6.5m y flwyddyn i gadw'r pedwar hofrennydd sydd dan ofal yr elusen i redeg, ac mae'r GIG yn gyfrifol am dalu'r meddygon sy'n hedfan arnynt.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi cynnal hediadau dros nos yn y gorffennol, ond dywed yr elusen y "bydd eisiau mwy o arian, bydd eisiau mwy o bobl" er mwyn gwireddu'r cynllun.

'Llwyth o sialensau'

Yn 么l Dewi Thomas, un o d卯m i Ambiwlans Awyr Cymru, "sialens enfawr" y blynyddoedd nesaf yw gwireddu'r freuddwyd o allu cynnig y gwasanaeth 24 awr y dydd.

Mynegodd bod heriau gwahanol yn wynebu t卯m sy'n hedfan ac yn gweithio ar ambiwlans awyr yn ystod y nos.

Ffynhonnell y llun, ABC

Dywedodd Mr Thomas: "Bydd eisiau mwy o arian, bydd eisiau mwy o bobl, ac mae llwyth o sialensiau am hedfan yn y nos, ond ni'n ffodus iawn bod yr elusen yn derbyn cymorth arbennig wrth bobl Cymru.

"Mae pawb yn teimlo'n gryf iawn tuag at yr elusen, so ni'n gobeithio yn y dyfodol byddwn yn gallu ymestyn beth sydd gyda ni ar hyn o bryd."

Pedair canolfan

Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru bellach feddygon argyfwng ymgynghorol ar eu hofrenyddion mewn pedair canolfan - Caernarfon, Caerdydd, Llanelli a'r Trallwng - ac yn 么l y prif weithredwr, Angela Hughes dyma'r gwasanaeth mwyaf o'i fath yn y DU.

Ychwanegodd Ms Hughes mai'r her nesaf yw ymestyn yr oriau gweithredu i 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos.

"Mae'n brysurach o lawer nawr, ond am ei fod yn wasanaeth cenedlaethol mae pobl yn gallu gweld i lle mae eu harian yn mynd," meddai.

"Mae faint o arian sy'n cael ei godi yn syfrdanol.

"Mae pobl yn gwybod pam fod ein hangen ni - llawer o waith mewn ardaloedd gwledig, glan-y-m么r a sefyllfaoedd meddygol anodd - ac ry'n ni'n mynd 芒 phobl i lle mae angen iddyn nhw fod."