Diffyg sicrwydd gan May am reolaeth cyllid wedi Brexit

Disgrifiad o'r llun, Mae Theresa May yn hyderus o gael cytundeb da

Mae Prif Weinidog y DU wedi gwrthod cadarnhau mai Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli cyllideb newydd fydd yn disodli cymorth economaidd yr UE ar 么l Brexit.

Mewn cyfweliad 芒 麻豆官网首页入口 Cymru, dywedodd Theresa May fod y Gronfa Ffyniant Cyffredinol angen y "strwythur a'r broses gywir yn ei le" ar hyd y DU.

Ychwanegodd mai bwriad hyn fyddai sicrhau fod arian yn cael ei wario yn y ffordd "mwyaf effeithiol bosib".

Mae Carwyn Jones wedi rhybuddio yn y gorffennol y byddai cyfnewid arian yr UE am system wedi ei ganoli yn San Steffan yn bradychu datganoli.

Fel un o wledydd tlotaf yr Undeb Ewropeaidd, bydd Cymru wedi derbyn mwy na 拢5bn mewn taliadau strwythurol erbyn 2020.

Mae'r arian yma wedi talu am sawl prosiect ar hyd y wlad gan gynnwys campws Prifysgol Abertawe a'r Academi Hwylio Genedlaethol ym Mhwllheli.

Ar 么l Brexit mae'r Ceidwadwyr wedi dweud y bydden nhw'n sefydlu "Cronfa Ffyniant Cyffredinol" yn lle'r cymorth ariannol sydd yn dod o'r Undeb Ewropeaidd. Y nod ydi lleihau anghydraddoldeb ar draws gwledydd y Deyrnas Unedig.

Gwariant 'effeithiol'

Gofynnwyd i Mrs May os byddai'r gronfa honno'r un mor garedig i Gymru yn ariannol ac mae'r Undeb Ewropeaidd wedi bod.

Dywedodd: "Pwynt y Gronfa Ffyniant Cyffredinol yw ein bod yn edrych ar y gwahaniaethau rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig - gwahaniaethau o fewn y gwledydd a'r rhanbarthau a phenderfynu ar y gwariant i sicrhau bod arian yn cael ei wario mor effeithiol ag sy'n bosib i ddarparu ar gyfer y bobol."

Ychwanegodd y bydd "trafodaethau hir" am sut bydd y cyllid yn cael ei strwythuro yn y dyfodol.

Disgrifiad o'r llun, Mae Carwyn Jones o'r farn y byddai system wedi ei ganoli yn San Steffan yn bradychu datganoli

Wrth drafod Brexit yn gyffredinol, dywedodd Ms May fod y Llywodraeth yn paratoi am "bob posibilrwydd".

Mynnodd Ms May na fydd hi'n cyfaddawdu ar ei chynlluniau Chequers, a'i bod hi'n "hyderus" o gael "cytundeb da" gyda'r UE.

Y feirniadaeth gan rai Ceidwadwyr ydi y byddai'r cynnig hwnnw'n cadw rhannau o'r economi yn rhy agos i'r Undeb Ewropeaidd.

"Tra ein bod yn gweithio tuag at hynny (cytundeb da), mae'n iawn ein bod yn paratoi am bob posibilrwydd. Dyna pam bod y llywodraeth yn paratoi ar gyfer dim cytundeb a pharatoi ar gyfer cytundeb," meddai Ms May.

Bydd y cyfweliad i'w weld yn llawn ar raglen Sunday Politics Wales, 麻豆官网首页入口 1 am 11:00.