麻豆官网首页入口

Angen 'gwneud rhagor' i annog merched i fod yn arweinwyr

  • Cyhoeddwyd
Gwen Parry Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Gwen Parry-Jones, cyfarwyddwr gweithredol Wylfa Newydd, bod angen annog mwy o ferched i fod yn arweinwyr

Mae'n rhaid i gwmn茂au mawr wneud rhagor i annog merched i fod yn arweinwyr, dyna rybudd pennaeth prosiect Wylfa Newydd ar Ynys M么n.

Gwen Parry-Jones ydy'r unig ddynes i redeg gorsaf niwclear ym Mhrydain, ac mae hi hefyd yn hanu o Ynys M么n.

Er ei bod hi, yn y gorffennol, wedi bod yn erbyn cwot芒u ar gyfer merched ar fyrddau cwmn茂au, mae bellach yn credu y byddan nhw'n gorfod cael eu cyflwyno, oni bai bod busnesau'n newid.

"Petaech chi wedi gofyn i mi am gwot芒u rai blynyddoedd yn 么l, mi fyswn i yn bendant wedi dweud, 'Na, dwi'n meddwl ei fod yn syniad gwael'.

"Mae'n rhaid i rywbeth newid.

"Am 30 mlynedd, yn fy mywyd gwaith, mae pobl wedi bod yn dweud ein bod ni ar fin torri trwodd. 30 mlynedd yn ddiweddarach, dydy hynny ddim wedi digwydd."

'Gobeithion uchel'

Fe ddechreuodd gyrfa Ms Parry-Jones yn hen orsaf Wylfa Magnox ar 么l graddio o brifysgolion Manceinion a Bangor.

Oddi yno, aeth ymlaen i weithio mewn pwerdai niwclear ym Mhrydain, Canada a'r Unol Daleithiau.

Cafodd ei phenodi yn gyfarwyddwr gweithredol dros ddatblygiad Wylfa Newydd i gwmni Horizon fis Ebrill.

Does dim sicrwydd o hyd y bydd yr orsaf yn cael ei chodi, gan fod sawl cam a rhwystr eto, yn cynnwys prosesau caniat芒d a'r angen i sicrhau cyllid.

Bydd Ms Parry-Jones yn gyfrifol am hynny i gyd.

Ffynhonnell y llun, Horizon
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwen Parry-Jones fydd yn gyfrifol am weithio tuag at adeiladu Wylfa Newydd

Dywedodd fod ganddi "lawer o hyder" a "gobeithion uchel" y bydd pwerdy newydd yn cael ei godi ar Ynys M么n.

Wrth amddiffyn yr arian cyhoeddus sy'n cael ei roi i berchnogion Horizon, cwmni Hitachi o Japan, dywedodd Ms Parry-Jones: "Mae gan Lywodraeth Prydain strategaeth ddiwydiannol sy'n s么n am ynni niwclear.

"Mae rhai o'r cynlluniau isadeiledd yn cymryd cryn dipyn o amser cyn bod cyfranddalwyr yn cael unrhyw beth yn 么l o'r buddsoddiad.

"Ac wrth greu isadeiledd, mi fyddai llawer o gwmn茂au yn disgwyl rhyw fath o gefnogaeth gan y wlad sy'n elwa o'r gwaith adeiladu. Dydy Hitachi [perchnogion Horizon] ddim gwahanol."

Llefydd i brentisiaid

Mae nifer o ferched yn hyfforddi ar raglen brentisiaid Horizon yng Ngholeg Llandrillo Menai.

Am bob un person sy'n cael lle ar y rhaglen, mae 'na 20 yn ymgeisio, yn 么l y cwmni.

Yn 么l un o'r prentisiaid, Si么n Lloyd, mae gweld Gwen Parry-Jones yn dychwelyd i arwain y prosiect yn hwb iddyn nhw i gyd.

"Mae'n ysbrydoli ni fel pobl leol, yn enwedig genod, gweld rhywun fel Gwen yn uchel yn y cwmni.

"Mae'n dangos bod merched yn gallu gwneud y swyddi mawr 'ma."