麻豆官网首页入口

'Stigma prydau am ddim yn taro cyllidebau ysgolion'

  • Cyhoeddwyd
Cinio

Dydy rhai rhieni ddim yn hawlio prydau ysgol am ddim achos teimladau o stigma, ac mae pryder am yr effaith all hynny gael ar gyllidebau ysgol.

Yn 么l un prifathro yn Ynys M么n mae'r ysgol a'r awdurdod lleol yn ceisio annog pobl i hawlio drwy bwysleisio'r arian ychwanegol y bydd yn denu i'r ysgol.

Mae ymchwil gan Brifysgol Bangor yn awgrymu bod elfen o 'falchder gwledig' yn gallu rhwystro rhai rhag hawlio yng nghefn gwlad.

Mae ysgolion yn derbyn 拢1,150 yn ychwanegol ar gyfer pob disgybl sy'n cael prydau am ddim.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Adam Williams bod yr ysgol yn colli allan ar arian gan y llywodraeth

Ar draws Cymru, roedd bron i 65,000 o ddisgyblion 5-15 oed yn gymwys yn 2017/18 - ychydig dros 17% o'r holl ddisgyblion.

Yn 么l ffigyrau Llywodraeth Cymru roedd bron i 57,000 o ddisgyblion yn hawlio'r prydau.

Dywedodd Adam Williams, Pennaeth Ysgol Uwchradd Caergybi bod 21% o ddisgyblion yr ysgol yn cael y prydau am ddim, ond mae'n amcangyfrif bod 43% wedi bod yn gymwys ar ryw adeg ers dechrau yn yr ysgol.

"Mae'r ffordd mae'r system yn gweithio wedi newid felly mae pobl wedi methu ymgeisio... Ac hefyd wrth gwrs y stigma sydd o gwmpas trio am ginio am ddim," meddai.

'Ysgol yn colli allan'

Mae'r ysgol ynghyd ag ysgolion uwchradd eraill yr ynys wedi cyflwyno system di-arian ble mae disgyblion yn rhoi 么l bys ar declyn sy'n cysylltu 芒'u cyfrif arian cinio - a hynny meddai Mr Williams yn gymorth i oresgyn stigma.

Dywedodd bod llai yn hawlio ar hyn o bryd sy'n golygu bod 'na lai o arian yn dod i'r ysgol drwy'r Grant Datblygu Disgyblion.

"Oherwydd y ffordd mae ysgolion yn cael arian drwy Lywodraeth Cymru a trwy'r grantiau, mae'r ysgol yn colli allan," meddai.

Mae swyddogion o'r ysgol a'r awdurdod lleol wedi bod yn gweithio gyda rhieni a chynnig cymorth gyda ffurflenni hawlio.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Brian Jones ydy un o'r swyddogion bugeiliol ddaeth yn sgil yr arian ychwanegol

Yn 么l Mr Williams, mae'r arian sy'n gysylltiedig 芒 nifer y plant sy'n cael prydau am ddim yn gyfraniad sylweddol i gyllideb yr ysgol ac wedi talu am swyddogion bugeiliol newydd.

Cyn-blismon o'r enw Brian Jones yw un o'r tri sydd newydd ddechrau eu gwaith yn yr ysgol

"Os di'r plant angen cymorth neu angen help, 'da ni yna i drafod ac i siarad. 'Da ni'n cysylltu 'efo'r rhieni hefyd - os oes gan y rhieni unrhyw bryderon ma' nhw'n dod i mewn a gawn ni sgwrs a thrafod y pryderon gyda'r rhieni.

"A thrwy gydweithrediad datblygu siwrne addysgol y plant."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gallai closrwydd cymunedau gwledig fod yn gyfrifol am y stigma, meddai Gwilym Sion ap Gruffudd

Mae ymchwil gan Brifysgol Bangor yn awgrymu y gallai teimladau o stigma fod yn fwy dwys mewn ardaloedd gwledig.

"Ein prif gasgliadau ni oedd bod penaethiaid ysgolion uwchradd a chynradd yn dweud nad ydy rhieni yn hawlio prydau ysgol am ddim oherwydd y gwarthnod sydd ynghlwm mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru", meddai awdur yr adroddiad, Gwilym Sion ap Gruffudd.

Dywedodd bod "closrwydd" y cymunedau a'r ffaith bod staff a theuluoedd yn aml yn byw yn lleol yn rhannol esbonio hynny.

Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ystyried newid y rheolau ynghlwm 芒 chael prydau ysgol am ddim oherwydd y diwygiadau i'r drefn fudd-daliadau.