Adam Price: 'Rhaid i annibyniaeth fod yn opsiwn'

Mae'n rhaid i annibyniaeth fod yn opsiwn yn dilyn Brexit, yn 么l arweinydd newydd Plaid Cymru.

Dywedodd Adam Price os fyddai yna ffin galed yn Iwerddon, ac os fyddai'r Deyrnas Unedig yn gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau, y byddai'r "awch am Alban annibynnol ac Iwerddon unedig" yn "bendant".

Wrth annerch cynhadledd Plaid Cymru yn Aberteifi fe rybuddiodd y gallai Cymru "gael ei lyncu i endid 'England and Wales'" lle byddai Cymru "ar drugaredd San Steffan".

Yn 么l Downing Street fe fyddai cynllun Chequers y Prif Weinidog ar gyfer Brexit yn creu ardal fasnach rydd ar gyfer nwyddau diwydiannol ac amaethyddol o fewn yr Undeb Ewropeaidd, wedi ei seilio ar reolau tebyg.

Maen nhw hefyd yn dweud y byddai'r cynllun yn datrys y cwestiynau am y ffin rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon.

Ond mae cynlluniau Theresa May wedi cael eu beirniadu gan ASau Ceidwadol sydd o blaid gadael a'r rhai sydd eisiau aros o fewn yr UE.

Tra bod prif negodydd yr UE ar Brexit, Michel Barnier wedi dweud ei fod yn gwrthwynebu'n gryf rhai o brif bwyntiau ei chynllun.

'Awch am annibyniaeth'

Dywedodd Mr Price fod Brexit yn bygwth achosi "creisis cyfansoddiadol" a hynny os na fydd cytundeb, neu hyd yn oed os fydd yna gytundeb.

"Os caiff y Brexitiwyr yn San Steffan eu ffordd fe fyddwn ni allan o'r farchnad sengl a'r undeb tollau, ac fe fydd 'na ffin galed yn Iwerddon," meddai.

"Fe fydd yr awch am annibyniaeth i'r Alban ac Iwerddon unedig yn un pendant iawn."

Ychwanegodd Mr Price fod angen i annibyniaeth i Gymru fod yn opsiwn "oherwydd dim ond drwy gymryd ein dyfodol 'n么l i'n dwylo ni y gallwn ni sicrhau na fydd ein gwlad yn cael ei lyncu i mewn i endid 'England andWales' lle'r ry' ni ar drugaredd San Steffan".

Refferendwm erbyn diwedd y degawd?

Os fydd ei blaid mewn llywodraeth yn dilyn etholiad y cynulliad yn 2021, dywedodd Mr Price y byddai'n "rhoi Deddf Refferendwm ar Annibyniaeth Cymru ar y llyfr statud ar y cyfle cyntaf posib".

Byddai hyn yn galluogi refferendwm "erbyn diwedd y ddegawd ar yr hwyraf, neu yn gynt os oedd yna unrhyw newid cyfansoddiadol i'r Deyrnas Unedig".

Fe enillodd Mr Price, aelod cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr y ras am arweinyddiaeth Plaid Cymru wythnos diwethaf, gan olynu Leanne Wood.

Yn ei ymgyrch dywedodd mai ei nod oedd ennill y ddau etholiad Cynulliad yn 2021 a 2026, ac yna cynnal refferendwm ar annibyniaeth.

Fe sydd yn arwain y trydydd gr诺p mwyaf yn y Cynulliad, yn dilyn Llafur a'r Ceidwadwyr, gyda 10 o'r 60 sedd.