麻豆官网首页入口

Elin Jones yw Cadeirydd Eisteddfod 2020

  • Cyhoeddwyd
Elin Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Elin Jones wedi bod yn aelod Cynulliad dros Geredigion ers 1999

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol a'r aelod Cynulliad lleol, Elin Jones AC, sydd wedi cael ei hethol yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2020.

Daeth y cyhoeddiad yn dilyn pleidlais yn ystod cyfarfod yn Ysgol Uwchradd Aberaeron fore Sadwrn.

Deian Creunant, sy'n gyfarwyddwr cysylltiad cyhoeddus, a gafodd ei ethol yn is-gadeirydd, a bydd cyn-Brif Weithredwr Cyngor Ceredigion, Bronwen Morgan, yn cymryd yr awenau fel Ysgrifennydd.

Mae'r cyfarfod yn cael ei gynnal er mwyn penderfynu ar brif swyddogaethau ac aelodaeth pwyllgorau'r Eisteddfod tra bydd hi yng Ngheredigion ym mis Awst 2020.