Codiad cyflog i staff y gwasanaeth iechyd yn y gyllideb

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cynnydd o 拢315m i'r gyllideb iechyd, ond gyda thalp mawr o hwnnw'n mynd ar godiadau cyflog.

Ddydd Mawrth cafodd ei chyllideb ei chyhoeddi ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Roedd y llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi'n gynharach yn y mis y byddai gwariant ar iechyd yn cynyddu 5% mewn termau real.

Ond ar yr un pryd cafwyd cadarnhad y byddai'r cyllid ar gael i gynghorau Cymru'n cael ei gwtogi - gyda rhai'n wynebu toriadau llymach nag eraill.

Toriadau i addysg?

Fe wnaeth awdurdodau lleol fynegi siom 芒'r setliad, gan ddweud nad yw'n "darparu digon o adnoddau i ariannu gwasanaethau lleol".

Ond dywedodd y llywodraethau y byddai cynghorau'n "flaenoriaeth" pe bai Cymru'n cael unrhyw arian ychwanegol pan fydd Canghellor Trysorlys y DU, Philip Hammond, yn cyhoeddi ei gyllideb ddydd Llun.

Dyma'r ail flwyddyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chyllideb mewn dwy ran.

Fe allai'r toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol olygu y bydd ysgolion, sydd yn cael eu cyllido gan gynghorau, yn teimlo rhywfaint o'r effaith.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd mwy o arian yn mynd tuag at y gyllideb iechyd yn 2019/20

Roedd cynnydd fodd bynnag o 拢11m i addysg 么l-16, ac o 拢20m i addysg uwch.

Bydd rhywfaint o doriad i gyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru - o 拢68.3m i 拢66m - ac i Amgueddfa Cymru, o 拢22.6m i 拢21.6m.

Ond mae sefydliadau eraill fel Cyngor Celfyddydau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Cadw wedi gweld eu cyllidebau'n aros yr un peth.

Mae'r gyllideb hefyd yn cynnwys cwtogiad yn yr arian ar gyfer rheoli llifogydd, a hynny o 拢57m i 拢52m.

Dadansoddiad gohebydd iechyd 麻豆官网首页入口 Cymru, Owain Clarke:

"Roedden ni eisoes yn gwybod y byddai'r system iechyd a gofal cymdeithasol yn elwa'n fawr o gyllideb y flwyddyn nesaf - maen nhw'n cael 拢287m yn ychwanegol ar ben y 拢200m oedd eisoes wedi'i gynllunio.

"Heddiw fe gawson ni fwy o fanylion ynghylch ble fydd rhywfaint o'r arian ychwanegol yn mynd.

"Bydd gwasanaethau craidd y GIG yn cael 拢315m yn ychwanegol o'i gymharu 芒 llynedd - gyda rhan fawr yn mynd tuag at ariannu codiad cyflog i staff - o ganlyniad i setliad gafodd ei wneud gan Lywodraeth Cymru rai wythnosau yn 么l maen nhw'n dweud sy'n fwy hael nag yn Lloegr.

"Bydd llawer o'r gweddill yn mynd tuag at fuddsoddi mewn gwasanaethau gofal cynradd, ac fe fydd byrddau iechyd unigol yn clywed ym mis Rhagfyr faint yn union fyddan nhw'n ei gael.

"Bydd gwasanaethau iechyd meddwl hefyd yn derbyn cyllid ychwanegol i ariannu rhaglenni mewn ysgolion, a hynny fel rhan o'r cytundeb ar y gyllideb gyda Phlaid Cymru."