'Trwsio tyllau ffordd yn flaenoriaeth', medd adroddiad

Ffynhonnell y llun, Antony Maybury

Disgrifiad o'r llun, Dyma'r twll yn y ffordd wnaeth ymddangos yn y llun buddugol gan Antony Maybury o Wrecsam

Dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar drwsio ffyrdd presennol yn lle adeiladu rhai newydd, yn 么l un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Daeth y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau i'r casgliad bod diffyg arian a blaenoriaeth ar gyfer atgyweiriadau yn broblem amlwg.

Ychwanegodd bod angen cynllun hirdymor yn hytrach na gweithio o flwyddyn i flwyddyn.

Daw hyn wedi i'r pwyllgor lansio cystadleuaeth tynnu lluniau i godi ymwybyddiaeth o gyflwr ein ffyrdd.

Ffynhonnell y llun, Ian McCallum

Disgrifiad o'r llun, Dyma ddarn o gelfyddyd Ian McCallum o Lanoronwy, Sir Fynwy

Ymhlith 14 o argymhellion i'r llywodraeth, mae'r pwyllgor yn dweud y dylai'r strategaeth newydd flaenoriaethu'r lonydd presennol yn hytrach nag adeiladu rhai newydd.

"Mae cyflwr ffyrdd Cymru yn bwysig iawn i bawb ohonom, p'un a ydym ni'n gyrru, yn beicio neu'n mynd 芒'r bws rydym ni i gyd yn ddefnyddwyr y ffordd," meddai Russell George AC, cadeirydd y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau.

"Mae'r pethau bob dydd sy'n ein cynnal, gan gynnwys llawer o'n bwyd, yn cael eu cludo ar y ffyrdd a chadw'r economi yn symud.

'Sownd mewn cylch blynyddol'

"Un o agweddau ysbrydol yr ymchwiliad hwn yw faint o'r materion a godwyd mewn astudiaethau blaenorol sy'n dal i fod yn anodd.

"Mae yna gonsensws llethol y byddai cyllid tymor hir ar gyfer asiantaethau llywodraeth leol a chefnffyrdd yn arwain at welliannau - ond rydym yn dal i fod yn sownd mewn cylch blynyddol.

"Mae angen i ni weithredu nawr, ac mae'r pwyllgor hwn o'r farn y dylai atgyweirio a gwella'r rhwydwaith sydd gennym ar hyn o bryd fod yn flaenoriaeth glir dros adeiladu ffyrdd newydd."

Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn ystyried awgrymiadau'r adroddiad.