AS Llafur Paul Flynn i ymddeol am resymau meddygol

Ffynhonnell y llun, Leon Neal

Disgrifiad o'r llun, Mae Paul Flynn wedi cynrychioli Gorllewin Casnewydd ers 31 o flynyddoedd

Wedi mwy na 30 mlynedd yn San Steffan, mae AS Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn, wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu ymddeol "cyn gynted 芒 phosib", a hynny am resymau meddygol.

Cafodd Mr Flynn, 83 oed, ei ethol am y tro cyntaf yn 1987 ac ers hynny mae wedi amddiffyn ei sedd am saith etholiad yn olynol.

Ers rhai misoedd mae'r AS Llafur wedi bod yn absennol o ran helaeth o drafodaethau'r Senedd oherwydd effaith arthritis gwynegol.

Roedd hefyd wedi dioddef o anemia dinistriol yn gynharach eleni a wnaeth hi'n anodd iddo deithio i Lundain.

Dywedodd Mr Flynn wrth 麻豆官网首页入口 Cymru y byddai'n gadael ei swydd "cyn yr etholiad cyffredinol".

Er iddo amddiffyn ei sedd yn gyfforddus ym mis Mehefin 2017, dywedodd Mr Flynn fod yr arthritis yn golygu ei fod o bellach yn gaeth i'w wely.

Yn 么l Mr Flynn hoffai gynrychioli dinas Casnewydd am gyfnod mor hir 芒 phosib.

Ychwanegodd y byddai'n hoffi osgoi is-etholiad oherwydd y gost "enfawr" sydd ynghlwm 芒 hynny.

'Rhwystredig'

Dywedodd Mr Flynn: "Rydw i'n gaeth i'r gwely ac mae gen i bedwar gofalwr y dydd. Mae fy ngwraig Sam wedi bod yn rhyfeddol ac mae Jessica Morden (AS Dwyrain Casnewydd) wedi bod yn ardderchog."

Ychwanegodd ei fod yn hynod o rwystredig nad oedd yn gallu chwarae r么l flaenllaw mewn gwleidyddiaeth, ond y byddai'n bendant yn rhan o unrhyw bleidlais yn Nh欧'r Cyffredin ar gytundeb Brexit.

"Fe af i'r Senedd ar stretcher os oes raid."

Disgrifiad o'r fideo, Paul Flynn yn tyngu llw i'r frenhines dan brotest yn Nh欧'r Cyffredin ym mis Mehefin 2017 am ei fod yn "weriniaethwr o argyhoeddiad"

Mae Mr Flynn wedi bod yn agored am ei genedlaetholdeb a'i deimladau gweriniaethol, ac mewn cyfweliad 芒 麻豆官网首页入口 Cymru Fyw yn 2017, dywedodd ei fod yn rhan o "draddodiad o genedlaetholwyr" yn y Blaid Lafur.

Wastad 芒 diddordeb yn yr iaith Gymraeg, dywedodd mai'r rheswm iddo ymuno 芒 Chyngor Casnewydd oedd i "sicrhau bod pethau'n gwella i'r Gymraeg".