麻豆官网首页入口

Prifysgol Bangor yn ystyried diswyddo gorfodol

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol Bangor

Mae'n bosib y bydd yn rhaid i Brifysgol Bangor ystyried diswyddiadau gorfodol wrth geisio arbed 拢5m, yn 么l gwybodaeth ddaeth i law rhaglen Newyddion 9 y 麻豆官网首页入口.

Mewn llythyr at staff, mae'r Is Ganghellor, Yr Athro John Hughes, yn rhybuddio bydd toriadau pellach y flwyddyn nesaf.

Bydd y brifysgol yn ymgynghori gydag undebau dros y misoedd nesaf.

Mae AC Arfon, Si芒n Gwenll茂an wedi ymateb drwy alw'r sefyllfa'n "ofid mawr."

'Gostwng costau'

Mae'r Athro Hughes wedi dweud wrth staff fod gostyngiad yn niferoedd myfyrwyr, cynnydd mewn cost pensiynau a chyflogau yn golygu bod rhaid i'r Brifysgol "ostwng costau unwaith eto"

Ysgrifennodd: "Wrth edrych ar y tafluniadau diweddara, a'r gostyngiad o ganlyniad i ffioedd dysgu ac arian am lety'r myfyrwyr bydd angen arbed 拢5m o gostau eleni, gyda mwy o arbedion yn debygol y flwyddyn nesaf.

"Er mwyn cyflawni'r targed yma, Mae'r swyddogion gweithredol wedi penderfynu lleihau ein gwariant di-d芒l o 10% yn syth."

Fe wnaeth y brifysgol gyhoeddi toriadau o 拢8.5m y llynedd heb orfod di-swyddo'n orfodol.

Disgrifiad,

Mae Sian Gwenllian AC yn pryderu a fydd modd i'r brifysgol osgoi diswyddiadau gwirfoddol

Wrth gyfeirio at y mesurau diweddara o doriadau, dywedodd yr Athro Hughes:

"Bydd telerau diswyddo gwirfoddol yn cael eu hystyried mewn rhai ardaloedd, ond yn anffodus, ni allw'n ddiystyru'r angen am ddiswyddiadau gorfodol ar hyn o bryd," meddai.

Dywedodd Si芒n Gwenll茂an AC Arfon bod rhaid i'r brifysgol osgoi diswyddiadau gorfodol.

"Dwy flynedd yn 么l roedd yn rhaid iddyn nhw fynd drwy broses debyg.

"Fe lwyddodd i wneud hynny heb unrhyw ddiswyddiadau gorfodol felly mae'n ofidus mai dyma'r ail dro iddyn nhw fynd drwy'r broses

"Ond dwi'n gobeithio y bydden nhw'n mantoli'r cyfrifon heb unrhyw ddiswyddiadau gorfodol."

'Mwy o arbedion'

Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol: "O ganlyniad i sawl elfen, mae lefelau incwm y brifysgol yn debygol o fod dan bwysau dros y blynyddoedd nesaf.

"O ganlyniad, mae'r brifysgol yn edrych i dorri costau, ac ar yr un pryd edrych i wneud yr elw mwyaf posib.

"Wrth edrych ar y tafluniadau diweddara bydd angen arbed 拢5m o gostau eleni, gyda mwy o arbedion yn debygol y flwyddyn nesaf.

Mae nifer o gamau yn cael eu cymryd i sicrhau'r arbedion yma, ac rydym yn ymgynghori gyda staff ac undebau gyda mwy o fanylion ar gael yn ystod y misoedd nesaf."