A fydd Cymru yn elwa o gyllideb Canghellor y Trysorlys?

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, A fydd Cymru yn elwa o gyllideb y Canghellor?
  • Awdur, Arwyn Jones
  • Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 麻豆官网首页入口 Cymru

Gallai Llywodraeth Cymru gael mwy o arian o ganlyniad i'r cynlluniau gwariant fydd yn cael eu nodi yng nghyllideb y Canghellor ddydd Llun.

Mae disgwyl i Phillip Hammond gyhoeddi 拢25.5bn i Briffyrdd Lloegr er mwyn uwchraddio ffyrdd rhwng 2020 a 2025 - cynlluniau fydd yn cael eu hariannu yn bennaf gan y dreth ar geir.

Bydd gwariant cyfatebol yn cael ei roi i Lywodraeth Cymru, ond mae Trysorlys San Steffan yn gwrthod 芒 chadarnhau union swm yr arian nes bydd y gyllideb yn cael ei thraddodi am 15:30.

Pan mae arian yn cael ei wario ar drafnidiaeth yn Lloegr mae fformiwla gyllido arbennig yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru hefyd yn derbyn arian.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Os yw Llywodraeth y DU yn cyllido'r cynlluniau drwy roi llai o arian i feysydd eraill, fydd 'na ddim mwy o arian i goffrau Llywodraeth Cymru.

Mae'r Trysorlys wedi gwrthod 芒 dweud wrth 麻豆官网首页入口 Cymru a fydd arian newydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cynlluniau.

Fe allai'r Canghellor Hammond hefyd sicrhau hwb i fusnesau'r stryd fawr yn Lloegr.

Ddydd Sadwrn roedd adroddiadau y bydd y gyllideb yn sicrhau 拢1.5bn o ryddhad ardrethi busnes, cynlluniau i adfywio'r stryd fawr a chysylltiadau trafnidiaeth yn Lloegr.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns y dylai Llywodraeth Cymru hefyd sicrhau hwb ariannol i fusnesau'r stryd fawr yng Nghymru.

Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu sut y byddant yn gwario unrhyw arian ychwanegol.

'Degawd o gwtogi'

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud mai cynghorau Cymru fydd y cyntaf i elwa os yw Cymru'n cael mwy o arian yn y gyllideb ddydd Llun.

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford y dylai cynnydd fod mewn gwariant cyhoeddus: "Ry'n ni'n gyson wedi galw ar i bolisi llymder llywodraeth San Steffan ddod i ben gan ei fod yn fethiant.

"Tra mod i'n rhoi croeso gofalus i sylwadau diweddar y Prif Weinidog Theresa May fod llymder yn dod i ben, dwi'n edrych ymlaen i weld sut bydd hynny'n digwydd yn ymarferol.

"Mae'n bryd i Lywodraeth y DU gynyddu gwariant cyhoeddus er mwyn cwrdd 芒 gofynion cynyddol gwasanaethau cyhoeddus a gwneud iawn am y difrod sydd wedi cael ei wneud gan ddegawd o gwtogiadau."

Disgrifiad o'r fideo, Fideo yn dangos llwybr posib ffordd liniaru yr M4

Dywedodd Mr Drakeford ei fod hefyd am i Lywodraeth Cymru fedru cael benthyg mwy o arian ar gyfer prosiectau adeiladu.

"Mae 'na bwysau mawr o hyd ar yr adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn isadeiledd," meddai.

"Ry'n ni eisoes yn defnyddio ein galluoedd benthyg i'r eithaf ond er mwyn parhau i weithredu ein blaenoriaethau gwariant mae'n rhaid i ni gael mwy o arian."

Ar hyn o bryd ffordd liniaru'r M4 yw'r prif gynllun sy'n cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru, gyda Metro De Cymru yn ail.