麻豆官网首页入口

Golygydd newydd am gefnogi datblygiad Radio Cymru 2

  • Cyhoeddwyd
麻豆官网首页入口
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhuanedd Richards yn cael ei holi ar raglen Post Cyntaf ddydd Mercher

Mae angen i fwy o bobl wybod am fodolaeth gwasanaeth Radio Cymru 2 a'r gwahanol ffyrdd o'i dderbyn, yn 么l golygydd newydd Radio Cymru yn ei hwythnos lawn gyntaf yn y swydd.

Dywedodd Rhuanedd Richards ei bod yn "hyderus iawn" y bydd y gwasanaeth a gafodd ei sefydlu gan ei rhagflaenydd, Betsan Powys "yn llwyddiannus", ac y byddai'r orsaf yn cael "pob cyfle a chefnogaeth bosib... i wreiddio a datblygu".

Ychwanegodd y byddai wrth ei bodd pe bai modd ystyried ymestyn darpariaeth yr orsaf, a bydd ymdrechion yn parhau i ddenu gwrandawyr newydd a iau i Radio Cymru.

Dywedodd hefyd y byddai'r orsaf "nid yn unig yn parchu ond yn amddiffyn" yr egwyddor o fod yn deg a diduedd yn sgil cwestiynau "digon teg" am ei chefndir yn y byd gwleidyddol, gan gynnwys cyfnod fel prif weithredwr Plaid Cymru.

Dywedodd wrth Post Cyntaf bod y cyfrifoldeb a'r disgwyliadau wrth iddi ddechrau ar y gwaith yn "enfawr", yn enwedig yn sgil "sefydlogi diweddar ffigyrau gwrando Radio Cymru".

"Y weledigaeth yn syml yw i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a chynulleidfaoedd iau, tra'n cadw'r cynulleidfaoedd presennol teyrngar iawn sydd gennym," meddai.

"Safon a natur cynnwys ein rhaglenni sydd yn mynd i ganiat谩u ac arwain at hynny.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Radio Cymru 2 yn darlledu ers Ionawr 2018

"'Dwi ishe rhoi pob cyfle a chefnogaeth bosib i Radio Cymru 2 wreiddio a datblygu. Yr hyn sydd angen ei wneud nawr yn fy marn i yw i ddweud wrth fwy o bobl amdani."

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y posibilrwydd o ymestyn oriau Radio Cymru 2 atebodd: "Fyswn i wrth fy modd. Dwi'n meddwl bod hi'n gwbl wych bod gennym ddewis bellach o ddwy orsaf.

"Y flaenoriaeth ar hyn o bryd dwi'n credu, serch hynny, yw sicrhau fod mwy o bobl yn dod i wybod am y gwasanaeth trwy'r amryw ffyrdd mae modd 'i dderbyn e."

Ychwanegodd bod posibiliadau "enfawr" i'r orsaf ddenu gwrandawyr ymhlith dysgwyr Cymraeg.

"Mae'n ddyddiau cynnaf ond dwi'n hyderus iawn y bydd [Radio Cymru 2] yn llwyddiannus," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Rhuanedd Richards bod ei rhagflaenydd, Bestan Powys "wedi gosod y bar yn uchel iawn" cyn gadael

A hithau bellach hefyd yn gyfrifol am wasanaethau ar-lein Cymru Fyw, dywedodd bod nifer y defnyddwyr wythnosol "wedi cynyddu o ychydig dros 9,000 i dros 50,000 a dwi'n credu yn bendant bod yna le i adeiladu ar hynny ymhellach".

Gorsaf ddiduedd

Dywedodd Rhuanedd Richards bod hi'n "ddigon teg" i godi cwestiynau am ei chefndir yn y byd gwleidyddol yn y cyfnod rhwng ymddiswyddo fel gohebydd gwleidyddol gyda 麻豆官网首页入口 Cymru a dychwelyd i'r gorfforaeth i'w swydd bresennol.

"Mae'n rhai blynyddoedd ers i mi fod yn brif weithredwr Plaid Cymru," meddai.

Ychwanegodd ei bod wedi gweithio gyda phobl o bob cefndir gwleidyddol mewn swyddi eraill wedi hynny, "gan ennill, rwy'n gobeithio, ymddiriedaeth y pleidiau eraill".

"Fel cyn-ohebydd gwleidyddol... rwy'n deall pa mor bwysig yw hi i integriti ac i awdurdod yr orsaf hon yw ei bod hi'n ddiduedd, ac mi fydda fo'n gweithredu mewn ffordd sydd nid yn unig yn parchu hynny ond fydd yn amddiffyn hynny hefyd."