Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Caniat芒d i godi 15 o dai yn Chwilog, Dwyfor
Mae cais i godi 15 o dai newydd yn ardal Dwyfor wedi derbyn s锚l bendith.
Yn 2015, cafodd caniat芒d cychwynnol ei roi i'r datblygiad ger tafarn y Madryn Arms yn Chwilog.
Mae'r datblygiad yn cynnwys:
- Un byngalo dwy ystafell wely;
- 11 t欧 teras a thai p芒r (semi-detached) gyda thair ystafell wely;
- Tri th欧 gyda phedair ystafell wely.
Bydd pedwar o'r 15 adeilad yn cael eu gwerthu fel tai fforddiadwy.
Fe dderbyniodd y cais ganiat芒d llawn gan bwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd ddydd Llun.
Dywedodd bod y cais wedi'i dderbyn am fod y cynlluniau gwreiddiol wedi cael eu haddasu i gynnwys "nodweddion lleol".