'Ddim yn gwybod' pwy ddylai arwain Llafur Cymru nesaf
- Cyhoeddwyd
Bore coffi, undeb myfyrwyr, blasu grawnwin mewn gardd gymunedol - rhai o'r llefydd mae gohebwyr yn mynd wrth ddilyn gwleidyddion uchelgeisiol.
Dwi wedi bod yn teithio o gwmpas yn cyfweld 芒'r tri ymgeisydd i arwain Llafur Cymru.
Maen nhw'n bobl gyfarwydd i unrhyw un 芒 diddordeb yng ngwleidyddiaeth Cymru, ond nid i fwyafrif y cyhoedd.
Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod Vaughan Gething, Mark Drakeford ac Eluned Morgan bron yn anhysbys.
Mae'r tri yn weinidogion, gyda'r grym i effeithio ar ein bywydau. Cyn bo hir, bydd un ohonyn nhw'n arwain Llywodraeth Cymru.
Serch hynny, mae'n ymddangos "nad oes gan y rhan fwyaf o bobl syniad pwy ydyn nhw", yn 么l arbenigwr arolygon barn Cymru.
Mae'r Athro Roger Awan-Scully wedi bod yn gweithio gyda YouGov i gasglu barn pobl am y darpar arweinwyr.
Er iddyn nhw ofyn y cwestiwn mewn sawl ffordd, un enillydd sydd hyd yma: 'Ddim yn gwybod'.
Pan ofynnwyd pwy fyddai'r prif weinidog gorau, roedd yn well gan y rhan fwyaf o bobl beidio ag ateb. Ac mae'r ganran 'Ddim yn gwybod' uchel yn awgrymu nad ydy pobl hyd yn oed yn adnabod yr ymgeiswyr, meddai'r Athro Awan-Scully.
Yn yr arolwg diweddaraf ar gyfer ITV Wales, fe wnaeth llai na chwarter ddewis hoff ymgeisydd. Doedd y canlyniadau fawr gwell wrth holi cefnogwyr Llafur yn unig.
Roedd yna ganlyniadau tebyg ym mis Mawrth a Gorffennaf hefyd - cyn i'r ymgyrch ddechrau o ddifrif. Ond yn 么l yr Athro Awan-Scully, dyw'r ymgyrch heb lwyddo i godi proffil yr ymgeiswyr.
Ac mae ganddo rybudd pellach: fe allai'r gwir sefyllfa fod yn waeth, hyd yn oed, nag y mae'r ymchwil yn awgrymu, gan fod pobl sydd 芒 dim diddordeb mewn gwleidyddiaeth yn llai tebygol o gyfrannu at arolygon barn yn y lle cyntaf.
'Testun pryder i ni gyd'
Gall hyn ddim argoeli'n dda i ddemocratiaeth Cymru ar adeg pan fo'i Chynulliad a'i Llywodraeth yn tyfu mewn grym. Wedi'r cyfan, bydd aelodau'r Blaid Lafur yn dewis rhywun i arwain llywodraeth 芒'r gallu i godi trethi.
Ar ben hynny, ychydig iawn o gyfleoedd sydd gan yr ymgeiswyr i gysylltu 芒 phleidleiswyr y blaid.
Mae eu hymgyrchoedd yn derbyn enwau a rhifau ff么n aelodau, ond nid cyfeiriadau e-bost - mae'n rhaid dibynnu ar y blaid i ddanfon tair neges electroneg yr un ar eu rhan.
Mae hustyngau wedi eu cynnal ledled Cymru. Doedd dim mynediad i mi, ond nes i dreulio hanner awr yn ffilmio tu fas i un cyfarfod ar noson oer yng Nghaerfyrddin. Yn 么l pob s么n, roedd 'na gynulleidfa weddol dda yno.
Ond dim ond canran gymharol fach o'r mwy na 25,000 o aelodau Llafur Cymru, neu'r undebwyr llafur sydd 芒 phleidlais, fydd yn gallu eu mynychu.
Mae'n golygu bod y cyfryngau cymdeithasol a sylw'r cyfryngau traddodiadol yn hanfodol.
Mae yna lawer o resymau pam bod cydnabyddiaeth mor isel - tranc y cyfryngau yng Nghymru, neu efallai diffyg diddordeb mewn gwleidyddiaeth.
Beth bynnag yw'r rheswm, nid problem i'r tri ymgeisydd yn unig yw hwn. Dylai fod yn destun pryder i ni gyd.
Yr Ymgeiswyr
Mark Drakeford
Oed: 64
Lle geni: Caerfyrddin
Etholaeth: Gorllewin Caerdydd
Gyrfa wleidyddol: yn ymgynghorydd arbennig i Lywodraeth Cymru o dan Rhodri Morgan; daeth yn Aelod Cynulliad yn 2011, ymunodd 芒 Llywodraeth Cymru fel Gweinidog Iechyd 2013 cyn dod yn Weinidog Cyllid yn 2016.
Slogan ymgyrch: Sosialaeth i'r 21ain Ganrif.
Vaughan Gething
Oed: 44
Lle geni: Lusaka, Zambia
Etholaeth: De Caerdydd a Phenarth
Gyrfa wleidyddol: Etholwyd i'r Cynulliad yn 2011; daeth yn Ddirprwy Weinidog Iechyd yn 2014 ag yn Ysgrifennydd Iechyd yn 2016.
Cyn gwleidyddiaeth: Cyfreithiwr; cyn-lywydd NUS Cymru; llywydd ifancaf erioed TUC Cymru.
Slogan ymgyrch: Mae angen dewrder i greu newid.
Eluned Morgan
Oed: 51
Lle geni: Caerdydd
Etholaeth: Canolbarth a Gorllewin Cymru
Gyrfa wleidyddol: Etholwyd fel aelod ifancaf Senedd Ewrop yn 1994; daeth yn Farwnes Morgan o Drel谩i yn 2011; yn weinidog cysgodol dros Gymru a Materion Tramor yn Nh欧'r Arglwyddi; etholwyd i'r Cynulliad yn 2016; daeth yn Weinidog yr Iaith Gymraeg yn 2016.
Slogan ymgyrch: Mae newid yn dechrau gyda chi.