'Ddim yn gwybod' pwy ddylai arwain Llafur Cymru nesaf

Ffynhonnell y llun, Cynulliad Cymru

Disgrifiad o'r llun, Eluned Morgan, Vaughan Gething a Mark Drakeford - yr ymgeiswyr sy'n gobeithio olynu Carwyn Jones ym mis Rhagfyr
  • Awdur, Daniel Davies
  • Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 麻豆官网首页入口 Cymru

Bore coffi, undeb myfyrwyr, blasu grawnwin mewn gardd gymunedol - rhai o'r llefydd mae gohebwyr yn mynd wrth ddilyn gwleidyddion uchelgeisiol.

Dwi wedi bod yn teithio o gwmpas yn cyfweld 芒'r tri ymgeisydd i arwain Llafur Cymru.

Maen nhw'n bobl gyfarwydd i unrhyw un 芒 diddordeb yng ngwleidyddiaeth Cymru, ond nid i fwyafrif y cyhoedd.

Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod Vaughan Gething, Mark Drakeford ac Eluned Morgan bron yn anhysbys.

Mae'r tri yn weinidogion, gyda'r grym i effeithio ar ein bywydau. Cyn bo hir, bydd un ohonyn nhw'n arwain Llywodraeth Cymru.

Serch hynny, mae'n ymddangos "nad oes gan y rhan fwyaf o bobl syniad pwy ydyn nhw", yn 么l arbenigwr arolygon barn Cymru.

Disgrifiad o'r llun, Dydy'r sefyllfa heb newid llawer ers dechrau ymgyrchoedd y tri ymgeisydd, medd yr Athro Roger Awan-Scully

Mae'r Athro Roger Awan-Scully wedi bod yn gweithio gyda YouGov i gasglu barn pobl am y darpar arweinwyr.

Er iddyn nhw ofyn y cwestiwn mewn sawl ffordd, un enillydd sydd hyd yma: 'Ddim yn gwybod'.

Pan ofynnwyd pwy fyddai'r prif weinidog gorau, roedd yn well gan y rhan fwyaf o bobl beidio ag ateb. Ac mae'r ganran 'Ddim yn gwybod' uchel yn awgrymu nad ydy pobl hyd yn oed yn adnabod yr ymgeiswyr, meddai'r Athro Awan-Scully.

Yn yr arolwg diweddaraf ar gyfer ITV Wales, fe wnaeth llai na chwarter ddewis hoff ymgeisydd. Doedd y canlyniadau fawr gwell wrth holi cefnogwyr Llafur yn unig.

Disgrifiad o'r fideo, Vaughan Roderick yn dadansoddi a darogan enillydd yn y ras am arweinyddiaeth Llafur Cymru

Roedd yna ganlyniadau tebyg ym mis Mawrth a Gorffennaf hefyd - cyn i'r ymgyrch ddechrau o ddifrif. Ond yn 么l yr Athro Awan-Scully, dyw'r ymgyrch heb lwyddo i godi proffil yr ymgeiswyr.

Ac mae ganddo rybudd pellach: fe allai'r gwir sefyllfa fod yn waeth, hyd yn oed, nag y mae'r ymchwil yn awgrymu, gan fod pobl sydd 芒 dim diddordeb mewn gwleidyddiaeth yn llai tebygol o gyfrannu at arolygon barn yn y lle cyntaf.

'Testun pryder i ni gyd'

Gall hyn ddim argoeli'n dda i ddemocratiaeth Cymru ar adeg pan fo'i Chynulliad a'i Llywodraeth yn tyfu mewn grym. Wedi'r cyfan, bydd aelodau'r Blaid Lafur yn dewis rhywun i arwain llywodraeth 芒'r gallu i godi trethi.

Ar ben hynny, ychydig iawn o gyfleoedd sydd gan yr ymgeiswyr i gysylltu 芒 phleidleiswyr y blaid.

Mae eu hymgyrchoedd yn derbyn enwau a rhifau ff么n aelodau, ond nid cyfeiriadau e-bost - mae'n rhaid dibynnu ar y blaid i ddanfon tair neges electroneg yr un ar eu rhan.

Mae hustyngau wedi eu cynnal ledled Cymru. Doedd dim mynediad i mi, ond nes i dreulio hanner awr yn ffilmio tu fas i un cyfarfod ar noson oer yng Nghaerfyrddin. Yn 么l pob s么n, roedd 'na gynulleidfa weddol dda yno.

Ond dim ond canran gymharol fach o'r mwy na 25,000 o aelodau Llafur Cymru, neu'r undebwyr llafur sydd 芒 phleidlais, fydd yn gallu eu mynychu.

Mae'n golygu bod y cyfryngau cymdeithasol a sylw'r cyfryngau traddodiadol yn hanfodol.

Mae yna lawer o resymau pam bod cydnabyddiaeth mor isel - tranc y cyfryngau yng Nghymru, neu efallai diffyg diddordeb mewn gwleidyddiaeth.

Beth bynnag yw'r rheswm, nid problem i'r tri ymgeisydd yn unig yw hwn. Dylai fod yn destun pryder i ni gyd.

Yr Ymgeiswyr

Mark Drakeford

  • Oed: 64
  • Lle geni: Caerfyrddin
  • Etholaeth: Gorllewin Caerdydd
  • Gyrfa wleidyddol: yn ymgynghorydd arbennig i Lywodraeth Cymru o dan Rhodri Morgan; daeth yn Aelod Cynulliad yn 2011, ymunodd 芒 Llywodraeth Cymru fel Gweinidog Iechyd 2013 cyn dod yn Weinidog Cyllid yn 2016.
  • Slogan ymgyrch: Sosialaeth i'r 21ain Ganrif.

Vaughan Gething

  • Oed: 44
  • Lle geni: Lusaka, Zambia
  • Etholaeth: De Caerdydd a Phenarth
  • Gyrfa wleidyddol: Etholwyd i'r Cynulliad yn 2011; daeth yn Ddirprwy Weinidog Iechyd yn 2014 ag yn Ysgrifennydd Iechyd yn 2016.
  • Cyn gwleidyddiaeth: Cyfreithiwr; cyn-lywydd NUS Cymru; llywydd ifancaf erioed TUC Cymru.
  • Slogan ymgyrch: Mae angen dewrder i greu newid.

Eluned Morgan

  • Oed: 51
  • Lle geni: Caerdydd
  • Etholaeth: Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Gyrfa wleidyddol: Etholwyd fel aelod ifancaf Senedd Ewrop yn 1994; daeth yn Farwnes Morgan o Drel谩i yn 2011; yn weinidog cysgodol dros Gymru a Materion Tramor yn Nh欧'r Arglwyddi; etholwyd i'r Cynulliad yn 2016; daeth yn Weinidog yr Iaith Gymraeg yn 2016.
  • Slogan ymgyrch: Mae newid yn dechrau gyda chi.