麻豆官网首页入口

'Heriau' i 麻豆官网首页入口 Radio Wales wrth i'r orsaf droi'n 40 oed

  • Cyhoeddwyd
Bws Radio Wales
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd cyflwynwyr Radio Wales yn mynd ar daith o amgylch Cymru ar fws arbennig i ddathlu'r 40

Mae'n rhaid i 麻豆官网首页入口 Radio Wales wynebu'r heriau sy'n dod yn sgil newidiadau i arferion gwrando, yn 么l golygydd yr orsaf.

Roedd Colin Paterson yn siarad wrth i'r orsaf ddathlu 40 mlynedd ar yr awyr.

Er bod ffigyrau gwrando Radio Wales wedi cyrraedd eu lefel isaf ers i gofnodion ddechrau, mae Mr Paterson am i'r orsaf fod yn "boblogaidd" tra'n cynnig cynnwys amrywiol.

Dywedodd Mr Paterson bod 麻豆官网首页入口 Cymru wedi gwneud gwaith ymchwil i "geisio deall beth yn union yw'r gymysgedd orau i'r orsaf".

Ychwanegodd ei fod yn bwriadu "dod ag enwau newydd a thrio pethau newydd" yn y dyfodol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Colin Paterson yn olygydd ar Radio Wales ers bron i ddwy flynedd

Mae'r twf yn y gwasanaethau ffrydio a phodlediadau wedi cyflwyno heriau newydd i'r gorsafoedd radio traddodiadol.

Yn ddiweddar fe lansiodd y 麻豆官网首页入口 ap newydd, 麻豆官网首页入口 Sounds, sy'n rhoi platfform i holl orsafoedd radio'r gorfforaeth, gan gynnwys eu podlediadau.

"Mae'n rhaid i ni wneud yn si诺r ein bod ni'n rhan o'r gymysgedd," meddai Mr Paterson.

"Mae'n amser o newid i'r cyfryngau, ond rwy'n meddwl hefyd ei bod hi'n amser cyffrous iawn.

"Mae jest rhaid i ni fod yn glir am ble mae Radio Wales yn y farchnad a beth sy'n rhaid i ni ei wneud i'n cynulleidfaoedd."