麻豆官网首页入口

Yr Urdd gwerth 拢25.5m i economi Cymru yn 2017-18

  • Cyhoeddwyd
Logo Croeso

Roedd mudiad Urdd Gobaith Cymru yn werth 拢25.5m i'r economi yn y flwyddyn 2017-18, yn 么l adroddiad newydd.

Yn 么l yr adroddiad, mae disgwyl y bydd yr effaith economaidd yn tyfu i 拢27.8m yn 2018-19, ac ymhellach i tua 拢31m erbyn 2019-20.

Bydd yr adroddiad gan Ymchwil Arad, gafodd ei gomisiynu gan yr Urdd, yn cael ei gyhoeddi mewn digwyddiad yn y Cynulliad ddydd Iau.

Dywedodd prif weithredwr yr Urdd, Si芒n Lewis eu bod yn "falch iawn o'r ffigyrau".

Yn 么l yr adroddiad fe wnaeth dros 46,000 o bobl a phlant aros yng ngwersylloedd yr Urdd yn y flwyddyn 2017-18 - 21,599 yn Llangrannog, 13,499 yng Nglan-llyn ac 11,020 yng Nghaerdydd.

Fe wnaeth y mudiad gyhoeddi fis diwethaf eu bod yn bwriadu bwrw 'mlaen gyda chynllun datblygu 拢5.5m yng ngwersylloedd Llangrannog a Glan-llyn.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gwersyll Glan-llyn yn werth 拢2m i'r economi, yn 么l yr adroddiad

Gwerth canghennau'r Urdd i'r economi

  • Eisteddfodau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol - 拢11.5m

  • Gweithgareddau chwaraeon - 拢2.6m

  • Gwersylloedd - 拢6.9m (Llangrannog - 拢3.1m; Glan-llyn - 拢2m; Caerdydd - 拢1.8m)

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Si芒n Lewis bod yr Urdd yn "rhan bwysig o'r economi leol" yn Llangrannog a'r Bala

"Gyda mwy na 300 o staff, yr Urdd yw'r cyflogwr trydydd sector cyfrwng Cymraeg mwyaf yng Nghymru," meddai Ms Lewis.

"Amcan yr Urdd yw darparu profiadau a gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg i blant a phobl ifanc yng Nghymru, ond mae'r adroddiad hwn yn dangos ein bod yn rhagori ar ein hamcanion.

"Rwy'n credu'n wirioneddol yn ein gallu i greu swyddi a chyfoeth i economi Cymru.

"Yn Llangrannog a'r Bala, rydym wedi dod yn rhan bwysig o'r economi leol a'n huchelgais yw cael effaith gadarnhaol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."