Arian ychwanegol i rai cynghorau

Disgrifiad o'r llun, Awdurdodau lleol sy'n ariannu ysgolion, gwasanaethau gofal, casglu sbwriel a pheth trafnidiaeth leol

Bydd rhai awdurdodau lleol a gafodd eu taro galetaf oherwydd toriadau i'w cyllidebau gan Lywodraeth Cymru y tymor nesaf yn derbyn mwy o arian.

Roedd Cynghorau Sir Ynys M么n, Conwy, Sir y Fflint, Powys, Sir Fynwy a Gwynedd yn wynebu toriadau o 1%.

Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford yn rhoi 拢14.2m yn ychwanegol i'r prif grant, gan olygu na fydd yr un cyngor ar ei golled o fwy na 0.5%.

Er hynny mae arweinwyr cynghorau yn dweud y bydd eu sefyllfa ariannol yn parhau yn "heriol".

Roedd y cynghorau wedi gofyn am fwy o arian wedi'r cyhoeddiad gwreiddiol o doriadau ym mis Hydref.

'Gwelliant sylweddol'

Dywedodd Mr Drakeford y bydd 拢13m yn ychwanegol yn mynd i brif ffynhonell arian y cynghorau yn 2019-20 gyda 拢1.2m yn ychwanegol er mwyn sicrhau nad oes yr un cyngor ar ei golled o fwy na 0.5%.

Cyhoeddodd hefyd y bydd 拢6m ar gael yn y flwyddyn ariannol presennol i gynorthwyo cynghorau Cymru gyda'r gost o lanhau ar 么l Storm Callum.

Daw ei gyhoeddiad yn dilyn Cyllideb Llywodraeth y DU lle cafodd 拢550m ychwanegol ei gyhoeddi i Lywodraeth Cymru.

Dywedodd arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Debbie Wilcox bod y cyhoeddiad yn "welliant sylweddol i'n trafodaethau" gyda Llywodraeth Cymru.

Ond ychwanegodd: "Does dim amheuaeth fod hwn yn parhau yn setliad ariannol heriol wedi wyth mlynedd o lymder. Yn benodol, dyw'r pwysau ar ysgolion a chyflogau athrawon yn ogystal 芒 chostau pensiwn anferth yn dal heb ei ddatrys."