'Y DU 芒 rheolaeth dros gytudnebau masnachu' medd May

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y Prif Weinidog bod gofyn i ASau ystyried anghenion y genedl cyn bwrw'u pleidlais am ei chytundeb Brexit

Y DU, nid Brwsel, fydd yn gyfrifol am drafod telerau masnachu gyda gwledydd eraill ar 么l gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn 么l y prif weinidog.

Wrth siarad yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd, dywedodd Theresa May bod ei chytundeb Brexit yn gofalu am ddiogelwch a swyddi pobl y DU.

Roedd Mrs May yn ymateb i feirniadaeth i'r cytundeb gan Donald Trump a'r cyn-aelod cabinet Michael Fallon.

Gyda phleidlais dyngedfennol ar y gweill yn Nh欧'r Cyffredin ym mis Rhagfyr, roedd hi'n ymbil ar ASau i ystyried anghenion y genedl.

Gan ymateb i'r cwestiwn a oedd yna gynllun arall ar y gweill petai'r llywodraeth yn gwrthod y cytundeb, dywedodd Mrs May: "Os na fydd y cytundeb yn derbyn cefnogaeth T欧'r Cyffredin, fe fydd yn arwain at fwy o rwygiadau a mwy o ansicrwydd."

Disgrifiad o'r llun, Siaradodd Theresa May gyda ffermwyr, gwleidyddion a'r cyhoedd yn ystod ei hymweliad 芒'r Ffair Aeaf

Yn 么l Mrs May, mae'r arafu gwleidyddol ar Brexit yn "adnabod yn glir" bod y DU am gael "polisi masnachu annibynnol" tu hwnt i'r UE.

Mae'r llywodraeth wrthi'n trafod gyda Washington i drefnu pa fath o gytundeb fydd gan y DU ac America.

"Ar 么l gadael yr UE, bydd gennym y gallu i wneud y penderfyniadau am gytundebau masnachu," meddai Mrs May.

"Ni fydd yn benderfyniad wedi ei wneud ym Mrwsel. Bydd gennym reolaeth dros hynny ac fe allwn wneud cytundebau sy'n ychwanegu at ein ffyniant, ein heconomi a dod 芒 swyddi i'r DU."

Roedd Downing Street wedi cadarnhau o flaen llaw y byddai Mrs May yn dweud wrth ffermwyr y bydd cynnyrch o Gymru, fel cig oen a chaws Caerffili yn cael ei warchod.

Mae cytundeb Brexit Mrs May eisoes wedi derbyn s锚l bendith arweinwyr y 27 gwlad sy'n aelodau o'r UE, cyn i ASau bleidleisio ym mis Rhagfyr.

Dywedodd llefarydd ar ran Mrs May y byddai'r Prif Weinidog yn siarad gyda ffermwyr a chynhyrchwyr yn y ffair, cyn cyfarfod 芒 gwleidyddion o Gymru.

Roedd Mrs May wedyn yn gadael am Ogledd Iwerddon ble bydd hi'n cwrdd 芒'r pum plaid wleidyddol yn Belfast.

'Symud ymlaen'

Cyn iddi ymweld 芒'r Ffair Aeaf, dywedodd Theresa May: "Bydd y cytundeb yma yn gweithio i ffermwyr yng Nghymru, sy'n haeddu gwell na'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (CAP).

"Ar 么l i ni adael y CAP, fe fyddwn yn rhydd i ddylunio polisi newydd fydd yn gweithio i gynhyrchwyr amaeth yn y pedair gwlad ac rydym yn symud ymlaen gyda hwn."

Mae CAP yn bolisi ar hyd yr UE sy'n penderfynu pa gefnogaeth sydd ar gael i ffermwyr.

Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am ddylunio'r cynllun fydd yn dod yn lle CAP, maen nhw wrthi'n ymgynghori ar sut i fynd ati i newid y drefn ar grantiau a chymorthdaliadau.

'Gwthio Cymru i'r cyrion'

Fodd bynnag, dywedodd Rhun ap Iorwerth, sy'n un o ddirprwy arweinwyr Plaid Cymru, nad yw ymweliad Mrs May yn "ddigon" i ddarbwyllo pobl am ei chytundeb Brexit.

"Mae yna ormod o esiamplau, drwy gydol y broses gyfan, o Gymru'n cael ei gwthio i'r cyrion," meddai.

"Mae'n [Mrs May] ymweld 芒 ni ac yn disgwyl gwerthu d锚l pan nad yw wir wedi rhoi sylw digonol i safbwyntiau Cymru - dydyn ni ddim am ei dderbyn."