麻豆官网首页入口

Cwest: Carl Sargeant wedi 'beio'i hun' am golli ei swydd

  • Cyhoeddwyd
Carl Sargeant

Mae gyrrwr gweinidogol Carl Sargeant wedi dweud wrth gwest fod y cyn-AC wedi "beio ei hun" am ei ddiswyddiad.

Roedd Calvin Williams, un o sawl gyrrwr sy'n gweithio i Lywodraeth Cymru, yn cludo'r cyn-Ysgrifennydd Cymunedau ar y diwrnod y cafodd y cabinet ei ad-drefnu.

Dywedodd fod Mr Sargeant yn "ddistaw" pan ddychwelodd i'r car wedi'r cyfarfod ble gollodd ei swydd, gan ddweud wrth Mr Williams ei fod "wedi mynd".

Cafodd Mr Sargeant ei ganfod yn farw bedwar diwrnod ar 么l cael ei ddiswyddo o gabinet Llywodraeth Cymru ar 3 Tachwedd 2017.

Roedd wedi ei gyhuddo o ymddygiad amhriodol tuag at fenywod, honiadau yr oedd yn eu gwadu.

Nodyn

Dywedodd Mr Williams wrth y cwest yn Rhuthun fod Mr Sargeant wedi dychwelyd i'r car a dweud wrtho ei fod wedi colli'i swydd, cyn gwneud ystum o dynnu'i fys ar draws ei wddf.

Fe wnaeth Mr Sargeant alwad ff么n yn y car, ac yna gofyn i gael ei ollwng ger gwesty yng Nghaerdydd.

Yn 么l nodiadau Mr Williams, fe ddywedodd Mr Sargeant wrth iddo adael y car: "Mae'n iawn. Fy mai i ydy hyn. Dwi wedi dod 芒 hyn ar fy hun."

Dywedodd Mr Williams ei fod wedi gweld adroddiadau ar 么l ei farwolaeth nad oedd Carl Sargeant yn gwybod pam y cafodd ei ddiswyddo.

"Roedd ein sgwrs ni, yn awgrymu i fi ei fod o yn gwybod," meddai.

"Diwrnod neu ddau" wedi diswyddiad Mr Sargeant dywedodd Mr Williams ei fod wedi cael y dasg o yrru'r Prif Weinidog Carwyn Jones.

Soniodd wrth Mr Jones am y sgwrs a gafodd gyda Mr Sargeant, a dangos y nodyn a wnaeth o'r sgwrs a gafwyd.

Pan ofynnwyd i Mr Williams beth oedd ymateb Mr Jones, dywedodd: "Wnaeth e ddim rhoi un iawn. Roedd e'n ddistaw ac wedyn dywedodd 'oes ots gen ti os dwi'n rhannu hwn gydag eraill?'."

O fewn ychydig ddyddiau, dywedodd Mr Williams ei fod wedi cael cais i fynd i weld un o swyddogion y llywodraeth, a rhoi ei nodyn gwreiddiol iddyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Calvin Williams fod y Prif Weinidog Carwyn Jones wedi gofyn am weld nodiadau o'i sgwrs gyda Carl Sargeant

Clywodd y cwest hefyd gan Craig Stephenson, cyfarwyddwr ymgysylltu gyda'r Cynulliad, a ddywedodd fod staff wedi dod i wybod ar y cyfryngau cymdeithasol am ddiswyddiad Mr Sargeant.

Dywedodd bod yr hysbysiad swyddogol cyntaf wedi dod am 16:00 ar 3 Tachwedd, pan ofynnodd y swyddfa diogelwch wrthyn nhw am "newid amodau pas diogelwch Carl Sargeant".

Ychwanegodd ei fod yn "gwybod" fel ffaith na wnaeth Mr Sargeant gysylltu gyda'r t卯m cymorth oedd ar gael yn y Cynulliad wedi iddo golli'i swydd.

Yn gynharach fe glywodd y cwest dystiolaeth ysgrifenedig gan aelod o'r t卯m oedd yn darparu'r gwasanaeth hwnnw, a ddywedodd mai'r cyswllt cyntaf gawson nhw oedd ar 7 Tachwedd yn dweud y gallai staff fod mewn cyswllt yn dilyn marwolaeth Mr Sargeant.

Neges Twitter

Dywedodd Daran Hill, ymgynghorydd gwleidyddol a ddisgrifiodd ei hun fel "ffrind agosaf Carl", ei fod wedi sylwi fod ei hwyliau wedi newid yn y cyfnod cyn ei farwolaeth.

Dywedodd ei fod wedi dechrau amau y byddai'n colli'i swydd pan fyddai'r ad-drefnu cabinet nesaf yn digwydd.

Ychwanegodd Mr Hill ei bod yn amlwg o sgwrsio gyda'r teulu Sargeant "fod yr adroddiadau yn y wasg [ar 么l ei ddiswyddiad] wedi effeithio arno'n sylweddol".

Wrth gyfeirio at neges Twitter gan Mr Sargeant ar 6 Tachwedd yn trafod ei ddiswyddiad, dywedodd Mr Hill ei fod eisiau "gwneud ei safbwynt yn glir" a phwysleisio nad oedd wedi colli'i swydd oherwydd "diffyg gallu".

"Yn syml, doedd e ddim yn ymddiried yn y blaid Lafur erbyn hynny," meddai Mr Hill.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cwest yn cael ei glywed gan y crwner John Gittins

Cadarnhaodd Mr Hill ei fod ef a Carl Sargeant wedi ysgrifennu'r trydariad ar y cyd gyda David Taylor, oedd hefyd yn ffrind i Mr Sargeant.

Dywedodd Mr Taylor wrth y cwest ei fod yn cofio un neges gan Mr Sargeant yn "ymddiheuro am adael pawb i lawr", ac un arall yn dweud y byddai wedi mynd "dan y don" oni bai am gefnogaeth ei ffrindiau.

Ar 6 Tachwedd dywedodd Mr Sargeant wrth Mr Taylor fod newyddiadurwr wedi bod yn "taro ar ei ddrws ffrynt", a'i fod yn teimlo bod y Prif Weinidog yn ceisio "dinistrio" ei yrfa.

Dywedodd ei fod hefyd wedi derbyn neges gan Mr Sargeant yn gofyn sut i yrru neges destun a'i amseru i gael ei anfon yn nes ymlaen.

Ar ddiwrnod marwolaeth Mr Sargeant, dywedodd Mr Taylor ei fod ef ac eraill wedi derbyn neges ganddo yn dweud 'caru chi i gyd x', a'i fod wedi ceisio'i ffonio'n 么l ond heb lwc.

Cwynion

Wrth roi tystiolaeth i'r cwest drwy linc fideo, dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Llafur Cymru fod Carwyn Jones wedi dod ati ar 31 Hydref 2017 i s么n am y tri honiad.

Dywedodd Louise Magee fod Mr Jones "wedi dweud wrtha i beth oedd natur y cwynion, ond wnaeth e ddim dweud pwy oedd y menywod".

Pan ddywedodd Ms Magee ei bod hi wedi siarad ag un o'r menywod yn ddiweddarach, gofynnodd y crwner John Gittins pam na wnaeth hi'r un peth gyda Mr Sargeant.

Mewn ymateb dywedodd Ms Magee y byddai hynny wedi bod yn "amhriodol" yn ei swydd hi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae mab Carl Sargeant, Jack, a'i weddw Bernadette wedi bod yn bresennol yn ystod y cwest yr wythnos hon

Dywedodd ei bod wedi cael gwybod toc cyn hanner dydd ar 3 Tachwedd bod Mr Sargeant wedi ei ddiswyddo.

Yn fuan wedyn derbyniodd e-bost gan Mr Jones yn cadarnhau nad oedd yn "briodol" i Mr Sargeant barhau yn y cabinet, yn dilyn honiadau o "sylw dieisiau, cyffwrdd ac aflonyddu amhriodol".

Fe siaradodd Ms Magee gyda Mr Sargeant yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, a dywedodd ei fod yn swnio'n "gwrtais" ond "rhwystredig".

Am tua 14:00, meddai, fe anfonwyd e-bost i Mr Sargeant yn rhoi gwybod iddo ei fod wedi ei wahardd dros dro o'r blaid Lafur.

Ond clywodd y cwest mai ar Twitter y gwelodd Mr Sargeant gyntaf ei fod wedi'i wahardd o'r blaid.

'Rhybudd am ymddygiad'

Ddydd Mercher clywodd y cwest gan y Prif Weinidog Carwyn Jones, a ddywedodd ei fod wedi rhybuddio Mr Sargeant am ei ymddygiad a'i yfed yn 2014.

Dywedodd Mr Jones nad oedd dewis ganddo ond diswyddo'r cyn-Ysgrifennydd Cymunedau erbyn 2017 pan gafodd honiad ysgrifenedig ei wneud.

Fe wnaeth y cwest hefyd glywed amheuon yngl欧n ag elfennau o dystiolaeth dirprwy arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Bernie Attridge, a ddywedodd ei fod yn credu "mai'r diswyddiad laddodd fy ffrind".

Ddydd Iau fe wnaeth cyfreithwyr Carwyn Jones gais i'r crwner alw Mr Attridge a Mr Shotton, i roi tystiolaeth i'r cwest.

Dywedodd Cathy McGahey bod honiadau bod Mr Attridge wedi dweud celwydd wrth y cwest, ac felly bod angen clywed eu tystiolaeth.

Gwrthod hynny wnaeth y crwner, gan ddweud bod "hwn yn gwest am Carl Sargeant".

Yn gynharach yn yr wythnos clywodd y cwest fod Mr Sargeant wedi bod yn dioddef o iselder ers rhai blynyddoedd.

Mewn llythyr i'w deulu cyn ei farwolaeth, dywedodd Mr Sargeant ei fod wedi'u "gadael i lawr", gan ymddiheuro am "gymryd y ffordd hawdd allan".

Mae'r cwest yn parhau.