麻豆官网首页入口

Merch sydd 芒 pharlys yr ymennydd yn 'ysbrydoliaeth'

  • Cyhoeddwyd
FfionFfynhonnell y llun, TROTS
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ffion yn gobeithio cyrraedd y Gemau Olympaidd yn y dyfodol

Mae hyfforddwr merch ifanc sy'n "gwthio'r ffiniau" fel aelod o glwb rhedeg wedi ei disgrifio fel ysbrydoliaeth.

Mae Ffion, sy'n wyth oed ac yn byw gyda pharlys yr ymennydd ac epilepsi, yn aelod o glwb rhedeg ieuenctid TROTs (Taf Running and Orienteering Team) ers mis Awst.

Dywedodd Aled Davies, a enillodd wobr Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn y 麻豆官网首页入口 wythnos diwethaf, fod gweld Ffion yn rhedeg yn "ardderchog".

"Mae hi'n mwynhau chwaraeon beth bynnag yw e, ond mae rhedeg tipyn bach yn sbesial iddi hi," meddai.

"Mae mam Ffion yn rhedeg gyda TROTs ac mae hi wedi dod i wylio rasys a mae hi moyn cyfle, ac yn y blynyddoedd nesaf bydd hi'n rhan mawr o TROTs."

Wrth drafod y broses o'i hyfforddi ar raglen Taro'r Post ddydd Gwener, dywedodd Mr Davies ei fod wedi gorfod addasu ymarferion ar ei chyfer.

"Rydw i wedi prynu hurdles bach iddi hi... mae hi'n gallu gwneud popeth ond ar watered down level."

Ffynhonnell y llun, TROTS
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe enillodd Aled Davies wobr Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru 2018

Ychwanegodd fod Ffion yn gobeithio cyrraedd y Gemau Paralympaidd rhyw ddiwrnod.

"Gobeithio bydd hi'n cario 'mlaen i redeg ac yn gwneud rhywbeth ohoni. Ma' drive mawr gyda hi, nothing will stop her."

Yn 么l Mr Davies "does dim geiriau i esbonio" ei deimladau wedi ei fuddugoliaeth bersonol yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru 2018, gan ddisgrifio'r wythnos fel "yr wythnos orau erioed".

Gallwch glywed y cyfweliad yn llawn ar raglen Taro'r Post.