Morrisons yn ymddiheuro dros labelu cig oen Cymreig

Mae archfarchnad Morrisons wedi ymddiheuro am fethu ag arddangos y labeli priodol ar gig oen o Gymru.

Rhannodd un cwsmer - y ffotograffydd Emyr Young - lun o becyn cig oen Cymreig wedi ei frandio gyda baner Jac yr Undeb mewn archfarchnad yn Hwlffordd.

Daeth hefyd i'r amlwg nad oedd yna label PGI (Protected Geographic Indication) - sy'n statws arbennig wedi ei roi gan yr Undeb Ewropeaidd - ar rai cynnyrch, gan gynnwys cig oen a chig eidion Cymreig.

Ymddiheurodd Morrisons am gam-labelu'r cynnyrch penodol hwnnw yn eu siop yn Hwlffordd.

Yn dilyn y drafodaeth ar Taro'r Post ddydd Llun, cysylltodd siopwyr eraill a oedd wedi gweld labeli anghywir yn cael eu defnyddio ar gig Cymreig mewn archfarchnadoedd ledled y wlad.

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru wedi gofyn i Morrisons am sylw pellach.

Y g诺yn wreiddiol

Ar raglen Taro'r Post 麻豆官网首页入口 Radio Cymru ddydd Llun, dywedodd Mr Young: "Dwi'n amau mod i 'di corddi'r dyfroedd, a dwi wedi derbyn lot o ymateb, rhai yn gas a rhai eraill yn gefnogol dros ben a lot yn dod o'r Alban 'fyd lle mae 'da nhw hashtag maen nhw'n defnyddio fan 'na: 'If it's a Jack put it Back'."

Er ei fod wedi teimlo'n "grac" yn wreiddiol, ychwanegodd Mr Young ei fod yn "hapus" gydag ymddiheuriad cyntaf Morrisons.

"Mae'n dangos p诺er Twitter yn hyn o beth ac mae'n dda gweld eu bod yn syrthio ar eu bai," meddai.

Ond sylwodd Rhys Llywelyn, Pennaeth Marchnata Hybu Cig Cymru, nad oedd y label yn cynnwys logo PGI.

Esboniodd Mr Llywelyn am bwysigrwydd y label PGI: "Be' mae'n 'neud yw talu sylw i'r ffaith bod gyda ni ddulliau cynhyrchu arbennig, dulliau arbennig traddodiadol, sy'n golygu bod yr Undeb Ewropeaidd wedi penderfynu rhoi statws PGI iddo fe."

Ffynhonnell y llun, Emyr Young/Twitter

Mewn datganiad pellach, dywedodd Hybu Cig Cymru mai'r "manwerthwyr eu hunain sy'n gyfrifol am eu brandio a'u marchnata" a'u bod fel mudiad ond yn gallu annog archfarchnadoedd i ddefnyddio'r label PGI.

Mae'n rhaid defnyddio symbol yr Undeb Ewropeaidd ar gynnyrch sydd 芒 statws PGI tra bod y Deyrnas Unedig yn rhan o'r undeb.

Yn 么l Mr Llywelyn, "eithriad" oedd y label cafodd ei ddarganfod gan Mr Young.

"Dwi'n derbyn eu hymddiheuriad nhw taw camgymeriad yw hwn," meddai. "Eithriad yw e, yn anaml iawn welwch chi'r fath yma o beth."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi "ymrwymo i hyrwyddo'r brand PGI ar Gig Oen Cymreig ym mhob marchnad".

Brandio 'diog'

Ar raglen Taro'r Post ddydd Mawrth, fe alwodd Dewi Eirig, arbenigwr gwefannau cymdeithasol ac ymgynghorydd marchnata, y label yn enghraifft o frandio "diog".

Dywedodd Mr Eirig: "Be' sy' 'di digwydd dwi'n meddwl yw bod y person sy'n 'neud y gwaith brandio i'r cwmni yn ddiog a ddim wedi gwneud eu gwaith cartref yn ddigon da."

Ychwanegodd Mr Eirig bod defnyddio baner Cymru a labeli PGI yn hybu gwerthiant cynnyrch.

"Mae [Cig Cymru] yn gynnyrch o safon. 'Da ni'n gwybod bod cig oen Cymru ymhlith y gorau yn y byd - mae Hybu Cig Cymru yn hyrwyddo hynny - ac mae prynwyr o amgylch y byd yn prynu cig Cymru oherwydd y safon."