Sylfaenydd cylchgrawn Golwg i adael y cwmni wedi 30 mlynedd

Disgrifiad o'r llun, Dylan Iorwerth oedd golygydd Golwg pan gafodd y rhifyn cyntaf ei gyhoeddi yn 1988

Mae sylfaenydd un o gylchgronau mwyaf adnabyddus yn y Gymraeg wedi cyhoeddi y bydd yn "camu'n 么l yn llwyr o reoli'r cwmni".

Fe sefydlodd Dylan Iorwerth y cylchgrawn Golwg ym mis Medi 1988.

Ers ei sefydlu mae'r cwmni wedi ehangu i gynnwys gwasanaeth newyddion ar-lein Golwg360 ac mae cynlluniau i ddatblygu rhwydwaith o wefannau lleol dan y faner Bro360.

Yn 么l Mr Iorwerth, y prif reswm mae'n cymryd cam yn 么l yw "er lles y cwmni allu datblygu at y dyfodol".

Fe gafodd hysbyseb i olynu Mr Iorwerth fel Prif Weithredwr ei gyhoeddi yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.

Disgrifiad o'r llun, Mae cwmni Golwg "mewn dwylo sicr" yn 么l Dylan Iorwerth gan fod dau o'r cyfarwyddwyr yn parhau i weithio i'r cwmni wrth iddo gymryd cam yn 么l

Dywedodd Mr Iorwerth wrth 麻豆官网首页入口 Cymru Fyw: "Roedd hyn yn fater o beth sydd orau i'r cwmni a gwybod pryd ydi'r amser iawn i drosglwyddo.

"Mae'n amser cael rhywun efo syniadau newydd a chael cyfeiriad newydd, yn enwedig r诺an fod Bro360 yn digwydd, mae 'na gyfleoedd mawr ac mae'n amser da i rywun newydd ddod fewn.

"Mae'r cwmni angen rhywun sy'n nes at y dechnoleg ddiweddara efo'r gobaith o geisio ehangu Bro360."

Ychwanegodd y byddai'n parhau i weithio i'r cwmni yn ystod y cyfnod trosglwyddo ac y bydd yna barhad o fewn y cwmni gan fod dau o'r cyfarwyddwyr yn parhau.

"Mi fydd yna barhad. Mi fydd Enid Jones ac Owain Schiavone yn parhau fel cyfarwyddwyr felly mae'r cwmni mewn dwylo sicr," meddai.

Mae'r cwmni'n gobeithio penodi Prif Weithredwr newydd yn y flwyddyn newydd.