Galw am ailedrych ar gynllun Pentref Llesiant Llanelli

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Gaerfyrddin

Disgrifiad o'r llun, Mae disgwyl i'r cynllun greu hyd at 2,000 o swyddi a dod 芒 拢467m i'r economi leol

Dylai Swyddfa Archwilio Cymru ymchwilio i brosiect gwerth 拢200m sydd wedi ei gynnig ar gyfer Llanelli, yn 么l arweinydd gr诺p gwrthblaid cyngor sir.

Mae Cyngor Sir G芒r wedi rhoi s锚l bendith dros dro i achos busnes y cynllun Pentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant - a fyddai'n cynnwys adnoddau hamdden, addysg ac iechyd - ond mae wedi codi pryderon ynghylch y broses gyfreithiol.

Dywedodd yr awdurdod y byddai'n rhoi cymeradwyaeth derfynol ar yr amod eu bod yn cael sicrwydd dros y pryderon hynny.

Mae'r cyngor yn edrych ar ffyrdd eraill o gwblhau'r datblygiad.

Mae disgwyl i'r prosiect dderbyn 拢40m gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru trwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe, yn amodol ar yr achos busnes.

Bydd yn cael 拢32m pellach gan y cyngor ac mae disgwyl i 拢128m arall ddod o'r sector preifat.

Gwaharddiadau Prifysgol Abertawe

Ond mae yna bryderon yn dilyn gwahardd aelodau staff ym Mhrifysgol Abertawe'r wythnos diwethaf.

Mae hynny'n cynnwys deon yr ysgol fusnes, yr Athro Marc Clement, a oedd yn rhan o'r broses o ysgrifennu'r cais am arian y Fargen Ddinesig, sy'n cynnwys y Pentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant.

Croesawodd arweinydd y gr诺p Llafur ar y cyngor, y cynghorydd Rob James, y penderfyniad i geisio cael sicrwydd pellach am y prosiect "yng ngoleuni'r gwaharddiadau ym Mhrifysgol Abertawe".

Dywedodd arweinydd y cyngor - y Cynghorydd Plaid Cymru, Emlyn Dole - fod yr achos busnes yn "gadarn".

Y gobaith yw y byddai'r pentref yn creu hyd at 2,000 o swyddi ac yn dod 芒 拢467m i'r economi leol.