麻豆官网首页入口

Llywodraeth i adolygu Bargen Ddinesig Bae Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Bae AbertaweFfynhonnell y llun, leighcol/Getty Images

Mae Llywodraethau Cymru a'r DU wedi cyhoeddi "adolygiad annibynnol cyflym" i Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

Bydd yr adolygiad yn ystyried rheolaeth bob elfen o'r cynllun gwerth 拢1.3bn hyd yma.

Mae'r cynllun, gafodd ei gyhoeddi 18 mis yn 么l, yn ceisio creu mwy na 9,000 o swyddi dros gyfnod o 15 mlynedd ym meysydd technoleg a gwyddoniaeth.

Dywedodd datganiad ar y cyd y byddai'r adolygiad yn "sylfaen i'r cam nesaf" o wireddu'r cynllun.

Gobaith y Llywodraeth yw y bydd yr adolygiad yn rhoi sicrwydd i bartneriaid - sy'n cynnwys pedwar cyngor, bwrdd iechyd a phrifysgolion - y bydd "pob elfen o'r Fargen yn cyflawni manteision economaidd llawn y rhaglen uchelgeisiol hon".

Ychwanegodd y datganiad y bydd argymhellion yr adolygiad yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau yn y dyfodol ynghylch rhyddhau cyllid y llywodraeth, yn ogystal 芒 rhoi'r "hyder mwyaf" i fuddsoddwyr preifat posib.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y cynllun ei gymeradwyo gan Theresa May yn 2017

'Partneriaid wedi ymrwymo'

Yn gynharach, roedd galwadau ar i Swyddfa Archwilio Cymru ymchwilio i gynlluniau ar gyfer 'Pentref Lles' newydd gwerth 拢200m yn Llanelli.

Mae disgwyl i'r prosiect dderbyn 拢40m gan Lywodraethau Cymru a'r DU drwy'r Fargen Ddinesig.

Byddai'r pentref yn cynnwys gwasanaethau iechyd, addysg a hamdden.

Mae yna hefyd ymchwiliad mewnol yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Abertawe, sydd wedi arwain at wahardd aelodau o staff, ond nid oedd y Brifysgol yn barod i ymhelaethu ar y mater.

Ychwanegodd y datganiad fod pob un o'r partneriaid wedi ymrwymo i sicrhau llwyddiant y Fargen, ac fe gytunwyd y bydd gwaith ar brosiectau unigol yn parhau wrth ochr yr adolygiad.