Drakeford 'am newid y ffordd mae'r cabinet yn rhedeg'

Disgrifiad o'r llun, Mae Mark Drakeford wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu gwneud hi'n haws i weinidogion drafod heriau hirdymor

Gall Mark Drakeford ddechrau'r gwaith o ddewis aelodau newydd o Lywodraeth Cymru ar 么l iddo gael ei ethol yn arweinydd nesaf Llafur Cymru.

Ond ni fydd cyfle iddo benodi gweinidogion i'w gabinet tan iddo gael ei benodi'n brif weinidog wythnos nesaf.

Dywedodd Mr Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid presennol, ei fod am newid y ffordd mae'r cabinet yn gweithio, gan ganiat谩u mwy o amser iddo ystyried heriau hirdymor.

"Dwi eisiau arwain t卯m yn y llywodraeth," meddai wrth 麻豆官网首页入口 Cymru.

Disgrifiad o'r fideo, Mark Drakeford ag awydd i gabinet Llywodraeth Cymru gael ei redeg mewn ffordd wahanol

Bydd aelodau cynulliad yn cael eu gwahodd i enwebu Mr Drakeford mewn pleidlais yn y Senedd ddydd Mercher nesaf.

Bydd Ceidwadwyr Cymru a Phlaid Cymru hefyd yn rhoi eu harweinwyr ymlaen.

Dywedodd Mr Drakeford: "Bydd newidiadau yn dod.

"Wrth gwrs, ar 么l cyfnod hir dan Carwyn Jones, bron degawd mae e wedi bod yn arweinydd yma yng Nghymru - cyfnod llwyddiannus hefyd.

"Dw i eisiau newid y ffordd mae'r cabinet, er enghraifft, yn rhedeg.

"Dw i isio i'r cabinet gael mwy o amser i feddwl am bethau yn y tymor hir.

"Fel arfer, mae cabinet yn dod at ei gilydd bob wythnos, ni'n canolbwyntio ar bethau sydd o flaen ni nawr.

"Dw i eisiau creu cyfleoedd i'r cabinet a phobl eraill tu fas i'r llywodraeth i ddod at ei gilydd ac i feddwl am bethau sydd yn mynd i ddigwydd yma yng Nghymru nid yn yr wythnos yma, nid yn y mis nesa' ond rhyw bryd yn y flwyddyn nesa."

Disgrifiad o'r llun, Mae Mark Drakeford wedi dweud ei fod am gynnig swyddi i'w wrthwynebwyr yn y ras, Vaughan Gething ac Eluned Morgan

Un o'r penderfyniadau mwyaf sy'n wynebu ei weinyddiaeth yw hynt cynllun adeiladu ffordd osgoi'r M4 ger Casnewydd.

Gofynnwyd iddo beth oedd ei farn am y cynllun, ond fe ddywedodd Mr Drakeford y byddai'n aros i weld y cyngor cyfreithiol a thechnegol sy'n cael eu paratoi ar gyfer gweinidogion.

Roedd y ddau ymgeisydd arall i arwain Llafur Cymru wedi galw am ail refferendwm ar Brexit, ond fe ddywedodd Mr Drakefod bod Llywodraeth Cymru'n parchu'r ffaith bod mwyafrif etholwyr Cymru wedi pleidleisio i adael.

Dadansoddiad Daniel Davies, gohebydd gwleidyddol 麻豆官网首页入口 Cymru

Gan fod cymaint o ACau Llafur wedi ei gefnogi, bydd hi'n anodd i Mark Drakeford waredu pobl.

Yn ystod yr ymgyrch, dywedodd y byddai "heb amheuaeth" yn cynnig swyddi i'w wrthwynebwyr, Vaughan Gething ac Eluned Morgan.

Dywedodd y byddai hefyd yn penodi ysgrifennydd cabinet ar gyfer tai.

Mae yna drafod y bydd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Alun Davies yn colli ei le.

Ac mae'n bosib bydd cyfle i Jane Hutt, cyfaill a fu wrth ochr Mr Drakeford yn ystod yr ymgyrch, ddychwelyd i'r cabinet.

Mae yna un swydd sy'n bendant yn rhydd - sef ei swydd ei hun, fel Ysgrifennydd Cyllid.